8.1 C
Llanelli
Saturday, January 24, 2026
Home Local News Cael blas ar ddysgu am ddim

Cael blas ar ddysgu am ddim

0
763

Cael blas ar ddysgu am ddim!

Gall mudiadau’r trydydd sector sy’n cefnogi pobl ddi-waith ar raglenni cyflogaeth a sgiliau gysylltu eu gwaith yn awr â chyfleoedd addysgol a gynigir yn rhad ac am ddim gan y Brifysgol Agored.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn awyddus i ddatblygu partneriaethau cymunedol gyda mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol i gefnogi pobl ar fudd-daliadau ac incwm isel a’u harwain at addysg.

Dywedodd Gayle Hudson, Swyddog Datblygu gyda’r Brifysgol Agored, wrth WCVA: ‘Drwy ein Rhaglen Openings ceir amrywiaeth o gyrsiau sydd wedi’u datblygu’n arbennig ar gyfer y rheini sy’n newydd i astudio, y rheini sy’n dychwelyd i addysg neu bobl nad ydynt o bosib wedi ennill dim cymwysterau ffurfiol yn yr ysgol.

‘Eu nod yw helpu pobl i gael blas ar bynciau, datblygu sgiliau dysgu a magu hyder.  Maent yn llwybrau dilyniant delfrydol o ddysgu yn y gymuned i addysg fwy ffurfiol a gallent fod yn gamau datblygu delfrydol o brosiectau megis y Porth Ymgysylltu a’r Farchnad Lafur Drosiannol.

‘Rydym yn awyddus i weithio gyda chymunedau lleol a mudiadau’r trydydd sector i helpu i ddatblygu sgiliau a dyheadau.  Efallai y gallwn gynnig sesiynau gwybodaeth a sesiynau blasu am ddim hefyd.’

Mae cyrsiau Rhaglen Openings y Brifysgol Agored yn para am 20 wythnos ac yn dechrau pedair gwaith y flwyddyn ym mis Medi, mis Tachwedd, mis Mawrth a mis Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Gayle Hudson (Gogledd a Chanolbarth Cymru) ar 01691 671648 ag*******@*****ac.uk neu Eleri Chilcot (De Cymru) ar 029 2026 2798 a r.*********@*****ac.uk. New ewch i www.open.ac.uk/openings


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.