Mae Gyrfa Cymru wedi lansio cyfres o adnoddau i ysgolion cynradd o’r enw ‘Dinas Gyrfaoedd’, sy’n cynnwys cwisiau, taflenni ffeithiau a fideos byr am wahanol swyddi a sectorau diwydiant.
Fe’u crëwyd i ddysgu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 am yrfaoedd a’r byd gwaith, ac mae’r adnoddau bellach ar gael i athrawon eu lawrlwytho a’u defnyddio yn y gwersi.
Cynlluniwyd yr adnoddau’n benodol i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd i Gymru 2022 sy’n cynnwys ystod o themâu a phynciau y gellir eu defnyddio mewn ffordd hwyliog, hawdd ac atyniadol.
Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth ac offer rhyngweithiol i athrawon eu defnyddio mewn gwersi gan gynnwys Mathemateg a Rhifedd, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Gwyddoniaeth a Thechnoleg a’r Celfyddydau Mynegiannol.
Mae’r prif offeryn dysgu yn canolbwyntio ar y ‘Map Darganfod’ sy’n dangos adeiladau o fewn y ‘Ddinas Gyrfaoedd’ sy’n cynrychioli prif sectorau diwydiant, megis siopau i gynrychioli swyddi manwerthu, canolfan ailgylchu i ddangos swyddi yn y maes ynni a’r amgylchedd a hyb arloesol i ddangos swyddi ym maes gwyddorau bywyd.
Wrth i’r flwyddyn ysgol fynd heibio ac wrth i’r athrawon integreiddio’r adnoddau yn eu gwersi, y nod yw cael y dosbarth i ddysgu am yr holl swyddi a sectorau a welir yn y Ddinas Gyrfaoedd erbyn diwedd tymor yr haf.
Gellir addasu’r map yn dibynnu ar gymuned leol yr ysgol a’r farchnad lafur leol a gall y disgyblion ei ddefnyddio i archwilio’r Ddinas Gyrfaoedd a’i swyddi drwy gydol y flwyddyn ysgol. Er enghraifft, gallai’r ysgolion sydd mewn rhannau mwy gwledig o Gymru ganolbwyntio ar y sectorau twristiaeth a ffermio a gall ysgolion trefol gael mwy o swyddfeydd ar eu map.
Cafodd yr adnoddau, a dreialwyd mewn ysgolion yng ngogledd Cymru i ddechrau, groeso mawr gan athrawon. Meddai un athro a gymerodd ran yn y cynllun peilot “yn sicr mae yna flwch mewn addysg gynradd a bydd y disgyblion yn elwa o gael gwybodaeth am swyddi a chyflogau i’w hysgogi a dod yn ddysgwyr mwy annibynnol”.
Meddai Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence: “Bydd yr adnoddau newydd yn helpu disgyblion ysgolion cynradd i ddysgu mwy am yr ystod o swyddi a chyfleoedd sydd ar gael ar eu cyfer yn y dyfodol.
“Rydym wedi cynllunio’r adnoddau i fod yn rhan hyblyg o gwricwlwm yr ysgol a gall yr athrawon eu cynnwys yn eu cynlluniau gwersi presennol bob tymor. Yn anad dim, bydd ganddynt y rhyddid i ddewis i ba raddau yr hoffent gynnwys y wybodaeth a ddarperir yn y pecyn adnoddau er mwyn ychwanegu at gyd-destun dysgu’r dosbarth.
“Mae’n bwysig dechrau codi dyheadau pobl ifanc drwy ehangu eu gorwelion pan fyddant yn ifanc a’u helpu i fynd i’r afael â rhagdybiaethau a stereoteipiau’n ymwneud â’r byd gwaith.”
Ychwanegodd athro arall a gymerodd ran yn y cynllun peilot: “cawsom ddwy wers unigol i ddechrau ac rydym wedi trefnu’r arddangosfa.
“Gallaf weld nawr sut y gallwn ddysgu am yrfaoedd newydd drwy’r pynciau a’u hychwanegu at yr arddangosfa”.
Mae’r adnoddau bellach ar gael i’w lawrlwytho drwy adran Hwb Gyrfa Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol gwefan Gyrfa Cymruhttps://gyrfacymru.llyw.cymru/gweithwyr-gyrfaoedd-proffesiynol
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















