13.8 C
Llanelli
Tuesday, October 27, 2026
Home Newyddion Lle Labordy Trafnidiaeth Cymru yn barod i arddangos yr ail gohort o arloeswyr...

Labordy Trafnidiaeth Cymru yn barod i arddangos yr ail gohort o arloeswyr technolegol

0
574
Lab1 scaled
Lab1 scaled

Mae’r rhaglen arloesi fwyaf blaenllaw yng Nghymru ar gyfer y rheilffyrdd ar fin gweld yr ail griw o ymgeiswyr creadigol ac uchelgeisiol yn cyflwyno eu syniadau.

Mae’r rhaglen gyflymu yn para 12 wythnos a’i bwriad yw ysgogi twf yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle cyffrous i arloeswyr busnesau ddatblygu eu syniadau i geisio gwella’r profiad i gwsmeriaid ar y rheilffyrdd.

Mae ail gohort y cynllun arloesol wedi bod yn gweithio’n agos â TrC dros y cyfnod o 12 wythnos. Mae’r 11 o fusnesau newydd – sef rhai o’r doniau mwyaf disglair yng Nghymru a’r DU – wedi cael eu mentora gan arbenigwyr busnes i ddatblygu eu cynnyrch, eu syniadau a’u dyfeisiadau.

Mae’r busnesau newydd wrthi’n paratoi i gyflwyno eu cynnyrch i’r swyddogion blaenllaw sy’n gwneud penderfyniadau yn Nhrafnidiaeth Cymru, a hynny mewn diwrnod arddangos rhithiol ddydd Gwener 13 Tachwedd (13:30-16:00). Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid yw cohort 2 o’r rhaglen wedi gallu cael ei gynnal yng nghyfleuster labordy modern TrC yng Nghasnewydd.

Bydd yr enillwyr yn cael arian i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach.

Dylai unrhyw un sydd eisiau gwylio’r diwrnod arddangos gofrestru drwy Eventbrite.

Yn ystod y diwrnod arddangos, bydd pob busnes newydd yn rhannu cyflwyniad fideo i gyflwyno eu cynnyrch terfynol. Yna, bydd y mynychwyr yn gallu gofyn cwestiynau a rhwydweithio â phob busnes mewn ystafelloedd ar wahân (drwy Microsoft Teams).

Ymysg rhai o’r syniadau arloesol sy’n cael eu datblygu, mae technoleg chwyldroadol y mae modd i’r staff ei gwisgo i helpu i leihau anafiadau wrth godi a chario, gwasanaeth ‘cynorthwyydd teithio’ i bersonoli cynlluniau taith i gwsmeriaid, a system amser real i gyfrif teithwyr a seddi sy’n cael eu defnyddio, er mwyn helpu cwsmeriaid i ddefnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i deithio. 

Bydd y diwrnod arddangos yn ceisio ysbrydoli arloesedd mewn busnesau, a bydd yn cynnig cipolwg ar rai o’r datblygiadau arloesol sy’n dod i rwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Dywedodd Barry Lloyd, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid ac Arloesi Trafnidiaeth Cymru:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr 2il Ddiwrnod Arddangos er mwyn i’r busnesau gwych a oedd gennym yng nghohort 2 allu dangos y gwaith cyffrous maent wedi’i wneud dros y 12 wythnos ddiwethaf.

“Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid dyma yn union oedd y profiad roeddem eisiau ei ddarparu ond nid yw hyn wedi amharu ar y brwdfrydedd a’r diddordeb a welsom gan bawb. Yn wir, mae wedi dod â deinamig cwbl newydd i’r rhaglen.

“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda’r cohort a gweld y syniadau’n troi’n gynnyrch a gwasanaethau a fydd yn diwallu ein hanghenion busnes, nawr ac yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Adam Foster, Pennaeth Marchnata yn Alt Labs:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddiwrnod arddangos cohort 2, nid yn unig er mwyn gweld y prosiectau cyffrous y mae’r busnesau newydd wedi bod yn gweithio arnynt ond hefyd er mwyn gweld yr heriau y maent wedi’u goresgyn oherwydd COVID a gweithio o bell.”

 “Er gwaethaf y rhwystrau yma, mae pob busnes wedi gwneud gwaith gwych yn cymryd rhan yn y gweithdai, yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac yn gweithio ar ddatblygu datrysiadau a fydd yn gwella gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru a’r gororau.”

“Bu diwrnod arddangos rhithiol cohort 1 yn llwyddiant mawr, ac rydyn ni’n adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ar gyfer cohort 2 drwy ymgorffori cyfleusterau rhwydweithio ychwanegol i roi cyfle i’r mynychwyr ymgysylltu â’r busnesau yn uniongyrchol ar ôl iddynt gyflwyno eu syniadau.”

“Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i bawb yn Nhrafnidiaeth Cymru sydd wedi sicrhau eu bod ar gael i gydweithio gyda’r busnesau newydd.”

Bu Cohort 1 yn y rhaglen yn hynod lwyddiannus, gan fod Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru wedi symud ymlaen â’r tri busnes a ddewiswyd yn enillwyr.

Mae Brite Yellow Ltd, Passage Way a CleverCiti wedi cael arian i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach, ac mae’r rheini yn amrywio o apiau i ganfod y ffordd i ddatrysiadau parcio ar gyfer cwsmeriaid.

Cewch ragor o wybodaeth am bob un o’r busnesau newydd, a’r cynnyrch a gyflwynir ganddynt yn y diwrnod arddangos, yn y fan yma.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.