12.5 C
Llanelli
Saturday, May 23, 2026
Home Local News Neath Port Talbot News Cyngor i fod yn asiant lleol ar gyfer cynllun Kickstart y Canghellor

Cyngor i fod yn asiant lleol ar gyfer cynllun Kickstart y Canghellor

0
508
3969 2646 2.55290852
3969 2646 2.55290852

Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cytuno i baratoi’r ffordd ar gyfer peri y gall y cyngor ddechrau gweithredu fel asiant lleol ar gyfer cynllun Kickstart y Llywodraeth.

Mae’r cynllun, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf gan y Canghellor Rishi Sunak, yn darparu cyllid i gyflogwyr er mwyn iddyn nhw greu lleoliadau gwaith ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol, ac sydd mewn perygl o ddisgyn i ddiweithdra hirdymor.

Yn y cyfarfod ar 4 Tachwedd, cymeradwyodd y Cabinet y cynnig y dylai’r cyngor wneud cais i’r Adran Waith a Phensiynau (DWP) i ddod yn Gynrychiolydd Trothwy (asiant lleol) ar gyfer y cynllun.

Yn ôl y Cynghorydd Carol Clement-Williams, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid: “Bydd y swyddi yn y cynllun hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc adeiladu’u sgiliau yn y gweithle ac ennill profiad er mwyn gwella’u cyfle o ddod o hir i waith hirdymor.”

Mae Kickstart yn gofyn ar i fusnes gymryd 30 lleoliad gwaith neu gydweithio gyda busnesau eraill (neu gyngor lleol) i gynnig 30 lleoliad ar y cyd.

Yn ôl pob sôn, mae croeso mawr i’r cynllun gan fusnesau a chan bobl ifanc, ond arweiniodd y meini prawf at rai cwynion fod y cynllun wedi’i saernïo’n fwy at fusnesau mwy o faint.

Fyddai cwmnïau llai ddim fel arfer yn gallu cynnig 30 lleoliad na chael y capasiti i sefydlu a chefnogi cyfundeb o gwmnïau er mwyn creu 30 lleoliad, ar ben rheoli’r gofynion cefnogi, ariannol a gweinyddol.

Gellir goresgyn y broblem hon, serch hynny, drwy greu rôl Cynrychiolydd Trothwy, a dyna mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn disgwyl gallu gwneud ar ôl cyflwyno gerbron y DWP.

Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau ledled y wlad, ac mae’r DWP yn cydnabod fod hawliadau budd-daliadau gan bobl ifanc eisoes wedi codi’n sylweddol, a bod cynnydd mawr wedi bod mewn diweithdra ymysg rhai rhwng 18-24 oed.

Y gobaith felly yw y bydd gweld y Cyngor yn hybu cynllun Kickstart yn arwain y ffordd ryw gymaint i leddfu effaith yr anawsterau economaidd presennol ar bobl ifanc, ac y bydd yn cynnig cyfleoedd gwaith a gyrfaoedd o safon ar gyfer eu dyfodol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here