13 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service Dymunwn Nadolig Diogel, Iach a Llawen i chi yn 2020

Dymunwn Nadolig Diogel, Iach a Llawen i chi yn 2020

0
849
beebbd7494994bba9c8cba460b37d4fc
beebbd7494994bba9c8cba460b37d4fc

Wrth i gyfnod yr Ŵyl brysur agosáu, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ein hatgoffa i osod diogelwch ar frig ein rhestr Nadolig eleni.

Pob diwrnod trwy gydol mis Rhagfyr bydd y Gwasanaeth yn agor drws ar ei Galendr Adfent Diogelwch dros y Nadolig rhithwir, ac yn datgelu’r awgrymiadau defnyddiol y dylai pob un ohonom eu dilyn i sicrhau Nadolig llawen, iach a diogel.

Byddwch yn gallu datgloi’r cyngor dyddiol ar ddiogelwch ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Gwasanaeth, a bydd yno hefyd gystadleuaeth â thema dymhorol, gyda nifer o daflenni gwaith llawn hwyl i blant ifanc, ac ambell awgrym diogelwch defnyddiol i’w cadw’n brysur.

Yn ôl Karen Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Heb amheuaeth, mae’r Nadolig yn mynd i fod ychydig yn wahanol eleni, ac wrth i ni baratoi ar gyfer y tebygolrwydd y byddwn yn treulio mwy o amser gartref dros yr Ŵyl, mae’n bwysicach fyth i’n hatgoffa ein hunain o gynghorion sylfaenol ar ddiogelwch i sicrhau ein bod yn dathlu mewn modd diogel.

“Mae amryw ohonom wedi dechrau’r dathliadau yn gynnar eleni, ac yn mynd gam ymhellach gyda’r addurniadau, gan ychwanegu rhagor o oleuadau gloyw, addurniadau Nadolig wedi’u pweru a chanhwyllau i greu mwy o awyrgylch. Defnyddir ceblau estyn neu addaswyr 4-ffordd i’r diben hwn yn helaeth yr adeg hon o’r flwyddyn, a hyd yn oed os bydd lle i blygio dyfeisiadau ychwanegol i mewn, dydy hynny ddim yn golygu ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Am fod cyfarpar trydanol gwahanol yn defnyddio meintiau gwahanol o ynni, gallent ordwymo a chynyddu’r risg o dân. Mae canhwyllau yn gallu cynyddu’r risg o dân yn y cartref hefyd, a thra ein bod yn annog pobl i beidio â defnyddio canhwyllau, deallwn fod nifer yn dymuno eu defnyddio am amryw o resymau gwahanol, boed yn rhan o ddathliad crefyddol neu dymhorol, neu, yn syml, i greu arogl pleserus yn y cartref. Mewn achosion o’r fath, byddem yn eich annog i fod yn ddiogel ac i gadw’r canhwyllau yn ddigon pell oddi wrth ddodrefn meddal, a sicrhau eu bod wedi eu diffodd yn llwyr pan fyddwch yn gadael yr ystafell a chyn mynd i’ch gwely.

“Am fod cyfyngiadau yn golygu ein bod yn debygol o fwyta gartref yn fwy na bwyta allan y Nadolig hwn, mae hefyd yn bwysig i ni fod yn wyliadwrus wrth goginio oherwydd, yn anffodus, mae mwyafrif y tanau mewn ceginau yn digwydd o ganlyniad i rywbeth yn tynnu’r sylw, gyda syrthio i gysgu yn ail agos. Ychwanegwch ambell ddiod dymhorol i’r gymysgedd, a gallai achosi trychineb. Nid yn unig y gallai olygu cegin llawn mwg a difrod i’ch eiddo, ond gallai hefyd achosi dinistr, niwed neu anafiadau difrifol.

“Os byddwch allan yn gwneud ychydig o siopa Nadolig munud olaf, neu’n gadael anrhegion i’ch teulu a’ch cyfeillion, cofiwch gymryd gofal ychwanegol wrth yrru mewn tywydd gaeafol; caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith a sicrhewch fod gennych welededd llawn cyn dechrau ar y daith.

“Byddwn yn annog pob un ohonoch i ymuno â ni i agor ein Calendr Adfent Diogelwch dros y Nadolig rhithwir yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr, ac i ddilyn ein cynghorion ar ddiogelwch i sicrhau eich bod chi a’ch anwyliaid yn cadw’n ddiogel ac yn iach y Nadolig hwn.”

Rydym hefyd yn eich annog i barhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod yr Ŵyl i sicrhau eich bod yn cadw eich hunain, eich teulu, eich cymdogion a’r gwasanaethau brys yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. I gael rhagor o wybodaeth a negeseuon diogelwch, ewch i’n gwefan www.mawwfire.gov.uk neu dilynwch ni ar ein sianeli Cyfryngau Cymdeithasol: Twitter – @mawwfire, Facebook – @mawwfire and Instagram –  mawwfire_rescue.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.