17.7 C
Llanelli
Sunday, September 20, 2026
Home Newyddion Lle Y Rhaglen Trawsnewid Trefi i roi hwb ariannol i drefi a busnesau...

Y Rhaglen Trawsnewid Trefi i roi hwb ariannol i drefi a busnesau ar draws Cymru

0
817
Street view scaled
Street view scaled

Cyn dydd Sadwrn y Busnesau Bach [5 Rhagfyr], mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi hwb ariannol o £10m i ganol trefi, o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £90m, i gefnogi busnesau a chynyddu bywiogrwydd ac ymwelwyr mewn trefi ar draws Cymru.

Bydd y cynllun benthyca yn helpu awdurdodau lleol i leihau nifer y safleoedd ac adeiladau gwag, segur ac nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol yng nghanol trefi drwy ddarparu benthyciadau di-log i ailddatblygu neu adnewyddu safleoedd.

Bydd yr eiddo’n cael ei ailddatblygu fel siopau, cartrefi a chyfleusterau hamdden, gyda benthyciadau’n cael eu hailgylchu hyd at dair gwaith dros gyfnod o 15 mlynedd. Ar ôl eu had-dalu gellir eu defnyddio eto i ariannu benthyciadau newydd y gellir eu hailfuddsoddi mewn prosiectau tebyg.

Fel rhan o fuddsoddiad cyffredinol Llywodraeth Cymru o £41.6m, mae prosiectau llwyddiannus blaenorol yn cynnwys y Tramshed yng Nghaerdydd, Tŷ Castell yng Nghaernarfon a’r Llys Ynadon yn y Drenewydd.

Fe wnaeth y Tramshed yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd, sy’n gweithredu fel canolbwynt i fusnesau lleol eraill ac sydd wedi ad-dalu ei fenthyciad o £500,000 yn llawn, ddefnyddio’r arian i greu cannoedd o swyddi, lletya 25 o fentrau, creu 7,500 troedfedd sgwâr o ofod busnes, cefnogi dros 40 o ddigwyddiadau cymunedol bob blwyddyn, a chynyddu nifer yr ymwelwyr 25,000 o bobl y flwyddyn.

Mae awdurdodau lleol a ariennir drwy’r cylch ceisiadau eleni’n cynnwys:

  • £555,000 ar gyfer Blaenau Gwent;
  • £1,205,000 ar gyfer Caerdydd;
  • £1,000,000 ar gyfer Conwy;
  • £840,000 ar gyfer Sir y Fflint;
  • £500,000 ar gyfer Gwynedd;
  • £400,000 ar gyfer Ynys Môn;
  • £5,000,000 ar gyfer Abertawe;
  • £500,000 ar gyfer Wrecsam.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

“Mae’r cynllun benthyca Trawsnewid Trefi yn amlygu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfywio ein canol trefi a rhoi eu hiechyd a’u bywiogrwydd wrth wraidd popeth a wnawn. Mae’r benthyciadau hyn yn cefnogi gweithgareddau sy’n denu ymwelwyr, yn mynd i’r afael â safleoedd ac adeiladau gwag ac yn cefnogi busnesau i dyfu a ffynnu.

“Mae’r ffordd rydyn ni’n defnyddio ein canol trefi wedi newid ac mae llawer o drefi’n cael trafferth yn sgil gostyngiad mewn gwerthiannau manwerthu. Er bod busnesau yn ein trefi ac ar ein stryd fawr wedi wynebu heriau yn ystod pandemig y coronafeirws, rydym hefyd wedi gweld newid cadarnhaol tuag at siopa’n lleol. Rwy’n gobeithio y bydd y cyllid hwn yn galluogi’r newid hwn i barhau a dod yn rhan annatod o’r ffordd rydym yn siopa ac yn defnyddio ein trefi yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae’r cyllid hwn yn rhan o gyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £900m ar gyfer prosiectau adfywio ochr yn ochr â phartneriaid allweddol.

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.