17.5 C
Llanelli
Friday, July 3, 2026
Home Dwr Cymru Coetir Cymunedol yn Llys-Faen a Llanisien i gael ei adfer diolch i...

Coetir Cymunedol yn Llys-Faen a Llanisien i gael ei adfer diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

0
740
Woodland image 2 scaled
Woodland image 2 scaled

Bydd coetir sydd wedi cael ei adael i dyfu’n wyllt ar safle dwy gronfa ddŵr yng ngogledd Caerdydd yn cael modd i fyw yn dilyn llwyddiant cais am gyllid i adfywio’r ardal.

Mae coedwig Gwern-y-Bendy a rhan o Rydypennau, sydd o fewn safle cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, wedi llwyddo i ddenu grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a fydd yn helpu i adfer a chyfoethogi’r coetir fel y gall lewyrchu am ddegawdau i ddod.

Cymerodd Dŵr Cymru feddiant o safle’r gronfa ddŵr yn 2016, ond hyd hynny roedd y goedwig wedi cael ei gadael i dyfu’n wyllt i bob pwrpas. O ganlyniad, mae’r lle’n llawn chwyn ac mae rhywogaethau goresgynnol yn tyfu’n wyllt, ac mae hynny wedi golygu nad oes modd mynd i rannau helaeth o’r goedwig.

Diolch i fenter Coetiroedd Cymunedol Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, caiff llawer o’r materion hyn eu datrys, a chaiff cynllun rheoli cynaliadwy ei roi ar waith Yno.  Y bwriad yw gwneud hyn oll gyda chymorth y gymuned leol a grŵp ‘Cyfeillion’ cyntaf Dŵr Cymru.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Treftadaeth ar ei ffurf hynaf yw byd natur, ac mae angen dybryd i ni gynorthwyo’i adferiad. Dyma pam fod ariannu tirweddau a byd natur ymhlith blaenoriaethau ariannu strategol allweddol Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.
“Mae hi’n bwysicach nawr nag erioed ein bod ni’n gofalu am fyd natur ac yn helpu pobl i ddeall ei bwysigrwydd, ac rydyn ni’n hapus dros ben i fod mewn sefyllfa i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau coedwig Gwern-y-Bendy a Rhydypennau trwy ein rhaglen ‘Coedwigoedd Cymunedol’ mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.”

Bydd y prosiect yn cynorthwyo cynllun rheoli coetiroedd a fydd yn cynnwys clirio’r rhywogaethau goresgynnol o’r safle. Bydd hyn yn ei dro yn caniatáu ar gyfer adfywiad fflora a ffawna, a phlannu coedwrychoedd cysylltiol a fydd yn darparu coridorau ar gyfer bywyd gwyllt. Caiff ardaloedd mwy sensitif y coetir eu hamddiffyn trwy greu parthau cadwraeth, a bydd parth dysgu’n darparu amwynder addysgol ar gyfer ysgolion lleol, y gymuned ac ymwelwyr. Bydd y prosiect yn cynnwys adfer pwll pysgod hanesyddol o fewn y coetiroedd er mwyn cyfoethogi ei nodweddion bioamrywiaeth eto fyth.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Rydyn ni wrth ein bodd y gall y cyllid yma gynorthwyo adferiad ardal werthfawr sydd mor agos at galon y gymuned. Mae hi’n bwysig i Ddŵr Cymru ein bod ni’n cydweithio â’r gymuned leol, ac yn ogystal â chyflymu’r broses o adfer y coetiroedd, bydd y prosiect yma’n helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y gwirfoddolwyr, ac yn ehangu mynediad i’r cyhoedd yn rhan o ddatblygiad ehangach y safle.

“Ar ôl ei adfer, bydd y coetir yn darparu mannau gwyrdd hygyrch ar gyfer y gymuned, a bydd yn cyfrannu at y nodau iechyd a llesiant ar gyfer pobl Caerdydd a’r cyffiniau.”

 

Woodland image-4

 

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Wrth i ni geisio trechu effaith argyfwng yr hinsawdd, a’r dirywiad yn ein bioamrywiaeth, mae hi’n hanfodol ein bod ni’n helpu cymunedau i greu ac adfer cynefinoedd ar draws Cymru.
“Am hynny, rwy’n hynod o falch fod Dŵr Cymru wedi gallu darparu gweledigaeth newydd i reoli’r coedwigoedd yng Ngwern-y-Bendy a Rhydypennau a fydd yn helpu i’w cynnal at y dyfodol – dyna’n union beth y cafodd ein menter Coetiroedd Cymunedol ei dylunio i’w gwneud, ac rwy’n edrych ymlaen at weld cynlluniau tebyg yn dod i’r fei yn y dyfodol.”

Mae Dŵr Cymru wedi rhyddhau ei gynlluniau i ddatblygu hyb i ymwelwyr a gweithgareddau dŵr cysylltiedig ar safle’r cronfeydd.   Yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd y gymuned leol gyfle i gofrestru diddordeb mewn ymuno â Grŵp Cyfeillion ac i weithio gyda Dŵr Cymru i gyd-greu achlysuron gwirfoddoli fel helpu gyda gweithgareddau rheoli cadwraeth er mwyn amddiffyn a gwella ecoleg unigryw’r safle.  Daeth 70 o gofrestriadau i law o fewn cyfnod o 6 wythnos. Mae llawer o’r bobl a gofrestrodd wedi mynegi diddordeb mewn rheoli cadwraeth, ac er nad oes gan lawer ohonynt unrhyw wybodaeth flaenorol, byddent yn hoffi cael cyfle i ddysgu a gofalu am eu milltir sgwâr.

Bydd y fenter Coetiroedd Cymunedol yn gallu cefnogi’r grŵp ‘Cyfeillion’ newydd trwy gynnig rhaglen o hyfforddiant dan oruchwyliaeth a fydd yn cyfrannu at adferiad y coetiroedd.  Bydd y rhaglen yn datblygu gallu a dealltwriaeth y gymuned er mwyn iddynt barhau i ofalu am yr ardal mewn ffyrdd sy’n amgylcheddol briodol, a bydd unigolion yn cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd ac i ailgysylltu â phobl eraill a byd natur mewn amgylchedd diogel.

Dylai unrhyw sefydliadau, grwpiau cymunedol neu elusennau sydd am gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd partneriaeth a allai fod ar gael ar y safle gysylltu â Dŵr Cymru yn lisvaneandllanishen@dwrcymru.com.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.