9.2 C
Llanelli
Tuesday, October 20, 2026
Home Newyddion Lle Cynnal y Blygain Rithiol Cyntaf Erioed

Cynnal y Blygain Rithiol Cyntaf Erioed

0
824
Plygain
Plygain
Play

Gyda Nadolig dra wahanol yn ein wynebu eleni, mae un o draddodiadau hynafol y Cymry hefyd yn addasu – y Blygain Rithiol. Mae’r Mentrau Iaith a Trac yn cynnal dwy noson o garolau Plygain ar-lein ar nosweithiau Sul Ragfyr 20fed a Ionawr 3ydd.

Mae’r traddodiad o ganu carolau Plygain i ddathlu’r Nadolig wedi parhau yn gyson mewn sawl man yng Nghymru yn cynnwys ym Maldwyn. Cafwyd y syniad o gynnal Y Blygain Rithiol cyntaf erioed gan Rhian Davies o Fenter Iaith Maldwyn er mwyn parhau â’r traddodiad a dod â chymunedau ynghyd. Dywed Rhian;

“Mae’r Blygain yn rhan bwysig o arferion tymor y Nadolig i nifer ohonom yma ym Maldwyn. Roedd meddwl am golli’r cyfle i ganu’r carolau traddodiadol hyfryd yma, a’r cymdeithasu a’r gwmnïaeth wedi peri siom mawr yn yr ardal. Roeddwn i’n awyddus iawn i lenwi’r bwlch rhywsut a lleddfu tipyn ar yr hiraeth yn y gymuned leol. Ond wrth gwrs, er mai ym Maldwyn mae’r Blygain ar ei chryfaf, mae Plygeiniau yn cael eu cynnal ar draws Cymru. Gan fod cynnal digwyddiad ar y we yn golygu bod modd cael cyfranwyr o bob rhan o’r wlad roedd hyn yn cynnig cyfle i ni gynnal Plygeiniau rhithiol cenedlaethol.”

Yn wahanol i wasanaeth Plygain arferol ni fydd y Plygeiniau Rhithiol yn cael eu cynnal mewn eglwys neu gapel, ond yn hytrach ar Facebook a YouTube. Oni bai am y lleoliad bydd y Plygeiniau Rhithiol yn dilyn trefn draddodiadol y gwasanaethau.

Mae Ffion Mair, o Lanwddyn yn wreiddiol ond bellach yng Nghaerdydd, wedi bod yn ganolog i gasglu perfformiadau pawb at ei gilydd. Dywed;

“Dwi mor falch ein bod ni wedi cael ymateb mor dda i’r syniad o gynnal gwasanaeth Plygain ar-lein gan unigolion a phartïon Plygain ledled Cymru. Bydd y gwasanaethau yn gyfle i ddod at ein gilydd fel cymuned a hefyd yn dangos ein traddodiad unigryw i’r byd. Rydym wedi ceisio cadw mor agos â phosib at drefn a naws Plygain go iawn – bydd gweinidog yn ein croesawu i’r gwasanaeth, bydd Carol y Swper ar y diwedd ac, wrth gwrs, rydym wedi gwneud yn siŵr na fydd unrhyw un yn ailadrodd carol sydd eisoes wedi bod!”  

Mae’r cynllun yn dilyn cydweithio rhwng y Mentrau Iaith, sy’n gweithio i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau, a Trac, sefydliad datblygu traddodiadau gwerin Cymru mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth y Cymry o’r traddodiad hynafol.

Dywed Blanche Rowen, Rheolydd Cwmni Trac;

“Rydym ni, fel Trac, wrth ein bodd ein bod ni wedi gallu helpu Mentrau Iaith i greu’r digwyddiadau yma. Mae hi mor bwysig fod Plygain yn digwydd rywsut eleni ac mae symud y gwasanaethau ar y we yn gyfle gwych i rannu’r traddodiad â chynulleidfa newydd ac ehangach.”

Bydd modd gwylio’r Plygeiniau Rhithiol ar dudalen Facebook Mentrau Iaith Cymru a YouTube Trac Cymru ar 20/12/2020 a 03/01/2021 am 18:00.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.