9.6 C
Llanelli
Wednesday, March 4, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Helpwch Ni i’ch Helpu Chi pan gewch eich Derbyn mewn Argyfwng

Helpwch Ni i’ch Helpu Chi pan gewch eich Derbyn mewn Argyfwng

0
833
download 6
download 6

Nid oes gan nifer o’r cleifion hŷn sy’n dod i mewn i’r ysbyty mewn ambiwlans unrhyw beth gyda nhw – dim dillad nac unrhyw ffordd o gysylltu â’u perthnasau, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Gyda chleifion yn methu cael ymwelwyr oherwydd cyfyngiadau COVID-19, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi creu tîm o Swyddogion Cyswllt Teulu i fod yn ddolen gyswllt rhwng y claf a’i deulu a’i ffrindiau.

Dywedodd Owain Davies, sy’n Swyddog Cyswllt Teulu yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, “O blith y 30 o gleifion y bûm yn cysylltu â nhw pan ddechreuais gyntaf, nid oedd gan 15 ohonynt unrhyw ddillad gyda nhw, nac unrhyw ffordd o gysylltu â’u perthnasau – roedd yn rhaid iddynt wisgo gŵn ysbyty. Maent yn dod yma mewn ambiwlans, a dim ond y dillad y maent yn eu gwisgo sydd ganddynt, a gallai hynny olygu eu pyjamas. Nid oes gan rai eraill unrhyw ffordd o gysylltu â’u hanwyliaid, gan nad oes ganddynt unrhyw ffôn na dyfais.”

Er bod tîm y Swyddogion Cyswllt Teulu yno i helpu’r cleifion hynny sy’n dod i mewn heb unrhyw beth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awyddus i ni feddwl am sut y gallwn ‘ein help ni i’ch helpu chi’ ar drothwy adeg brysuraf y flwyddyn o ran derbyniadau i’r ysbyty.  Os cewch chi, neu berthynas/anwylyn, eich derbyn i’r ysbyty mewn argyfwng, cymerwch eiliad i ystyried beth y bydd angen i’r claf ddod gydag ef. Dim ond bag bach y bydd ei angen, sy’n cynnwys pethau ymolchi, tywel bach, dillad sbâr, dillad nos, sliperi neu esgidiau, a llyfr da i basio’r amser, efallai, yn ogystal â ffôn neu ddyfais er mwyn cadw mewn cysylltiad.

Mae’r Brif Nyrs Nia Jones a’r Therapydd Galwedigaethol, Hannah Moses, ill dwy yn cytuno bod cyflwyno tîm y Swyddogion Cyswllt Teulu wedi golygu bod ganddynt ragor o amser i’w dreulio gyda’r cleifion i wneud mwy o’r pethau y mae angen eu gwneud i sicrhau eu bod yn gwella. Ychwanegodd y Brif Nyrs, Nia Jones, “Mae hyn wir wedi ein helpu yn ystod yr adegau anodd, prysur yn ddiweddar.”

Y Swyddogion Cyswllt Teulu yw’r ddolen gyswllt rhwng y claf a’i deulu yn ystod y pandemig. Gallant drefnu dillad, yn ogystal â chadw mewn cysylltiad trwy ddefnyddio dyfeisiau a ffonau. Aeth Owain ymlaen i ddweud, “Gall meddu ar eu heiddo eu hunain a gwisgo eu dillad eu hunain wneud gwahaniaeth enfawr i’r cleifion, ac mae gallu cadw mewn cysylltiad â’u teulu a’u ffrindiau yn eu helpu ar hyd y ffordd i wella’n gynt.”

Dywedodd Dennis Reed, sy’n glaf yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, “Rwyf wedi bod yn yr ysbyty ers dros ddau fis, ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar am yr help y mae Owain a’i gyd-weithwyr wedi’i roi i mi. Mae’n wasanaeth mor wych, ac mae o fudd enfawr. Rwyf wedi gallu cadw mewn cysylltiad â’m plant a’m ffrindiau trwy ddefnyddio’r ffôn symudol a’r gwasanaeth Skype y mae tîm y Swyddogion Cyswllt Teulu yn eu darparu. Nid oeddwn erioed wedi defnyddio ffôn symudol cyn cael fy nerbyn i’r ysbyty.”

Ychwanegodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Dim ond oddi ar ddechrau’r flwyddyn y mae ein Swyddogion Cyswllt Teulu wedi bod gyda ni ond, mewn cyfnod mor fyr, maent eisoes wedi profi eu bod yn ased gwych, yn enwedig ar gyfer ein cleifion hynaf a mwyaf agored i niwed. Maent wedi bod yn olau llachar mewn blwyddyn sydd, fel arall, wedi bod yn un dywyll i wasanaethau iechyd a gofal ar hyd a lled y wlad. Pe gallai’r rheiny sy’n dod i’r ysbyty hefyd ein helpu ni i’w helpu nhw trwy ystyried beth y mae angen iddynt ddod gyda nhw, byddem yn gwerthfawrogi hynny.”

Nid dim ond y dillad y mae’r cleifion yn dod i’r ysbyty gyda nhw mewn argyfwng a all ein ‘ein help ni i’ch helpu chi’ yn ystod y pandemig. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’r gwasanaeth ambiwlans yn cael nifer cynyddol o alwadau am achosion o lithro a baglu sy’n ganlyniad i wisgo esgidiau anaddas. Pan fo’r gwasanaethau yn cael eu hymestyn fel y maent ar hyn o bryd, cawn ein hannog i feddwl am berthnasau oedrannus yn arbennig, i sicrhau ein bod yn gwisgo esgidiau priodol, gyda gafael, ac i fanteisio ar brofion llygaid am ddim er mwyn ein hatal rhag baglu a chwympo.

Mae cipolwg ar waith y tîm Swyddogion Cyswllt Teulu newydd, a gyflwynwyd yn llwyddiannus i Fwrdd iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar gael i’w wylio yma: https://www.youtube.com/watch?v=DVBrYtV871E


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.