11.6 C
Llanelli
Thursday, September 24, 2026
Home Newyddion Lle Cynllun Gweithredu Allforio Newydd yn hollbwysig i economi Cymru

Cynllun Gweithredu Allforio Newydd yn hollbwysig i economi Cymru

0
554
251360250.jpg.gallery
251360250.jpg.gallery

Bydd Cynllun Gweithredu Allforio newydd Llywodraeth Cymru yn darparu y rhaglen fwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr o gymorth allforio sydd wedi ei sefydlu yng Nghymru.

Mae nwyddau a gwasanaethau o Gymru wedi eu hallforio yn fyd-eang ers amser, gan helpu Cymru i ddod yn wlad fasnachu gref a llwyddiannus. Rhwng 2015 a 2019, tyfodd gwerth nwyddau o Gymru yn gyflymach na’r DU yn gyfan, ac yn 2019, cyrhaeddodd £17.8bn.

Fodd bynnag, mae’r trafodaethau parhaus ar ddyfodol y berthynas rhwng y DU a’r UE wedi llesteirio gallu busnesau i gynllunio a pharatoi yn llawn.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, bod hyn wedi gosod pwysau enfawr ar gwmnïau sydd eisoes yn delio gydag effeithiau economaidd y coronafeirws.

I gefnogi cwmnïau drwy’r cyfnod heriol hwn, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Allforio heddiw fydd yn cynnig cefnogaeth eang i allforwyr o Gymru i adfer ac ail-adeiladu.

Bydd y cynllun yn cynnig cymorth ar unwaith i fusnesau, ac yn ail-ddarganfod ac addasu cymorth i fodloni anghenion allforio busnesau wedi Covid a diwedd Cyfnod Pontio yr UE.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: “Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i’r byd, a dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y nwyddau a’r gwasanaethau gwych sy’n cael eu hanfon ledled y byd.

“Mae’r cynnydd hwn, sydd wedi gweld allforion o Gymru yn cynyddu’n gynt na’r DU yn gyfan, wedi dilyn blynyddoedd o waith caled gan Lywodraeth Cymru.

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos â chwmnïau o Gymru i helpu iddynt hybu eu hallforion a datblygu eu masnach rhyngwladol, ac mae’n waith sydd wedi’i gryfhau gan ein Cynllun Gweithredu Economaidd a’n Strategaeth Ryngwladol. Fel gwlad, rydyn ni wedi gweld a mwynhau manteision economaidd ein llwyddiant ar y cyd yn y maes hwn.

“Fodd bynnag, mae’n amlwg bod y pandemig a’r trafodaethau maith ar ddyfodol y berthynas â’r UE wedi cael effaith ar y sefyllfa, gydag ystadegau dros dro yn dangos bod gwerth allforio nwyddau o Gymru ar gyfer y 12 mis hyd at ail chwarter 2020 i lawr 12.5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

“Heddiw dwi’n lansio fy Nghynllun Gweithredu Allforio newydd, sydd yn fy marn i y cynllun mwyaf cynhwysfawr ac uchelgeisiol erioed yng Nghymru i helpu ein busnesau allforio i adfer ac ail-adeiladu. Cafodd ei ddatblygu gyda’n partneriaid, ac mae wedi ei gynllunio’n benodol i sicrhau bod ein busnesau allforio mewn sefyllfa dda i wynebu heriau heddiw ac yfory.”

Mae’r Cynllun Gweithredu Allforio yn amlinellu pwyslais Llywodraeth Cymru ar:

  • Adddasu rhaglenni presennol o gymorth allforio fel eu bod yn cyd-fynd â ffyrdd newydd o weithio ag anghenion newidiol busnesau;
  • Darparu cyngor a chefnogaeth i allforwyr o Gymru a helpu iddynt reoli diwedd y cyfnod pontio â’r UE;
  • Cyrraedd mwy o fusnesau yng Nghymru, yn enwedig y busnesau hynny sydd â’r gallu i allforio;
  • Creu capasiti a gallu ar gyfer allforio i sicrhau bod gan fusnesau o Gymru y sgiliau a’r hyder iawn i fod yn allforwyr llwyddiannus;
  • Datblygu ymyraethau cefnogi allforio newydd, gan gynnwys treialu menter Clwstwr Allforio newydd i hwyluso rhwydweithiau cryf o gymorth allforio
  • Darparu gweithgarwch tramor mewn marchnadoedd allweddol a pharu y cyfleoedd hyn gyda sectorau ble y mae gan Gymru gryfderau arbennig o fewn sector.

Mae Hwb Allforio newydd ar-lein hefyd ar gael i fusnesau. Mae hwn yn adnodd pwysig i gwmnïau o Gymru ac yn cynnig gwybodaeth fyw ar ystod o faterion allforio. Bydd hyn yn cynnal allforwyr presennol a rhai newydd i ddatblygu a mynd i’r afael ag unrhyw heriau y maent yn eu hwynebu yn yr amgylchedd fasnachu yn y dyfodol.

Hefyd, cafodd cyfres o ‘ymweliadau rhithwir â marchnadoedd allforio’ eu trefnu ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon i sicrhau y gall busnesau o Gymru barhau i gyfarfod â chwsmeriaid posibl o fewn marchnadoedd targed.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.