11.6 C
Llanelli
Saturday, November 28, 2026
Home Newyddion Lle Rheoliadau newydd i atal achosion o droi allan y Nadolig hwn

Rheoliadau newydd i atal achosion o droi allan y Nadolig hwn

0
559
WG positive 40mm
WG positive 40mm

Daeth cadarnhad gan Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y bydd deddfwriaeth frys yn rhan o ymdrechion i ddiogelu iechyd cyhoeddus ac amddiffyn pobl sy’n rhentu y Nadolig hwn,.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar fesurau i atal achosion o droi allan o lety rhent cymdeithasol a phreifat rhwng 11 Rhagfyr ac 11 Ionawr eleni fel rhan o’i hymateb i fynd i’r afael â lledaeniad COVID-19.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Rydym yn cymryd camau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chefnogi tenantiaid Cymru y Nadolig hwn. Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i lawer o bobl ac ni ddylid gorfodi rhentwyr allan o’u cartrefi ar adeg pan fydd llai o fynediad at gyngor, cymorth a llety arall. Gwyddom hefyd fod mwy o berygl i bobl sy’n ddigartref ddal y coronafeirws.

“Un o’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â digartrefedd yw ei atal rhag digwydd i ddechrau, ac mae hyn yn un o’r camau rydym yn eu cymryd gan fod llawer o bobl yn wynebu ansicrwydd.

“Eleni rydym yn buddsoddi hyd at £50 miliwn i fynd i’r afael â digartrefedd, nid yn unig i sicrhau nad oes angen i neb gysgu allan, ond i helpu i drawsnewid gwasanaethau er mwyn sicrhau bod cartrefi parhaol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.”

Yn gynharach eleni darparodd Llywodraeth Cymru £1.4m yn ychwanegol drwy’r Gronfa Cynghori Sengl i gefnogi pobl i reoli dyledion problemus a gwella incwm eu haelwyd. Defnyddiwyd rhan o’r arian hwn i greu’r Cynllun Rhybudd Cynnar ar gyfer ôl-ddyledion rhent a dyledion eraill aelwydydd yn y sector rhentu preifat. Mae hyn yn helpu llawer o bobl sy’n byw mewn llety rhent preifat i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.

Yn ogystal, mae Cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth Llywodraeth Cymru yn cynnig benthyciad cost isel i denantiaid yn y sector preifat sydd mewn ôl-ddyledion rhent. Telir yr arian hwn yn uniongyrchol i’r landlord, i fynd i’r afael â dyled ac i atal achosion o droi allan.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

“Mae’n hanfodol bod gan y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau fynediad at gyngor diduedd am ddim y gallant ymddiried ynddo, a’r cymorth ariannol drwy’r system fudd-daliadau y mae arnynt ei hangen, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Nid yw’r materion y mae pobl wedi’u hwynebu yn diflannu.

“Mae’r Gronfa Cynghori Sengl yn parhau i alluogi pobl ledled Cymru i gael gafael ar y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i wneud y mwyaf o’u hincwm, datrys materion tai, a rheoli dyled.”

PRS debt helpline case studies


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.