11.6 C
Llanelli
Thursday, September 24, 2026
Home Newyddion Lle Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar yr ystadegau...

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar yr ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur

0
537
251360250.jpg.gallery
251360250.jpg.gallery

Gan gynnig sylwadau ar Ystadegau y Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Ar ddiwedd 2019 roedd y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru mor isel ag erioed, felly mae ffigurau heddiw yn dangos yn glir y niwed y mae’r coronafeirws wedi ei gael ar fusnesau yng Nghymru, swyddi a’n heconomi yn ystod y flwyddyn heriol hon.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau proactif i gefnogi ein cwmnïau a’n pobl drwy’r cyfnodau anodd hyn. Ers mis Mawrth rydyn ni wedi sicrhau bod oddeutu £2 biliwn o gyllid cefnogi busnesau ar gael, gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, £340m ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Mae’r cymorth hwn yn helpu i warchod miloedd o fusnesau ym mhob rhan o Gymru, ac mae eisoes wedi gwarchod 125,000 o swyddi a bywoliaethau yng Nghymru.

“Hefyd, mae ein mentrau prentisiaeth newydd yn helpu busnesau o Gymru i recriwtio prentisiaid, a thrwy ein hymrywmiad Covid rydym yn addo i helpu unrhyw un sydd angen cymorth i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu i ddechrau eu busnesau eu hunain. Bydd ein Cynllun Gweithredu ar Allforio newydd, a lansiwyd heddiw, hefyd yn hollbwysig i helpu ein busnesau allforio i adfer, ail-adeiladu ac addasu i fywyd y tu allan i’r UE.

“Mae’r rhain yn gyfnodau hynod anodd, ond rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn i gefnogi busnesau a swyddi, yn ogystal â gwarchod iechyd pobl, ac yn y pen draw i achub bywydau.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.