16 C
Llanelli
Tuesday, July 21, 2026
Home Newyddion Lle Defnyddwyr Ap COVID-19 y GIG nawr yn gymwys i wneud cais am...

Defnyddwyr Ap COVID-19 y GIG nawr yn gymwys i wneud cais am daliad hunanynysu o £500.

0
451
coronafeirws
coronafeirws

Bydd y bobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan ap COVID-19 y GIG nawr yn gymwys i wneud cais am y taliad cymorth hunanynysu o £500. Dyna gyhoeddiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James heddiw.

O heddiw, bydd defnyddwyr yr ap sy’n cael gwybod eu bod wedi dod i gysylltiad â’r feirws, ac sydd ar incwm isel ac mewn perygl o ddioddef caledi ariannol yn gymwys ynghyd â’r bobl sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, neu rieni y mae lleoliad addysg wedi gofyn i’w plentyn hunanynysu.

I fod yn gymwys i wneud cais, bydd angen i ddefnyddwyr yr ap fodloni meini prawf y prif gynllun. Rhaid iddynt fod:

  • yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig;
  • ddim yn gallu gweithio gartref ac yn mynd i golli incwm o ganlyniad; ac
  • (yr ymgeisydd neu eu partner) yn derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn ar hyn o bryd; neu
  • Bod eu cais wedi’i dderbyn o dan elfen ddewisol y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu.

I ganiatáu i gymaint o bobl â phosibl sy’n cael hysbysiad gan yr ap i wneud cais yn brydlon, mae trefniadau dros dro ar waith nes y bydd ateb digidol ar gael. Gall defnyddwyr wneud cais am y taliad drwy gysylltu â’u hawdurdod lleol. Fodd bynnag, nes bydd yr ap yn cael ei ddiweddaru i ddilysu unigolion sydd wedi cael cais i hunanynysu, bydd angen i ddefnyddwyr hefyd ddangos tystiolaeth bod yr ap wedi gofyn iddynt hunanynysu yn ogystal â thystiolaeth o incwm isel wrth wneud cais. Bydd awdurdodau lleol yn gallu derbyn a phrosesu ceisiadau am daliadau o ddydd Gwener 5 Chwefror a bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais hyd at dair wythnos o ddiwrnod olaf eu cyfnod hunanynysu.  

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu iechyd a llesiant pobl a byddwn yn parhau i gefnogi pobl Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r taliad o £500 eisoes wedi rhoi diogelwch ariannol i bobl sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu, gan helpu i dorri’r cylch trosglwyddo a sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un ddewis rhwng aros gartref a methu bwydo eu teulu, neu fynd i’r gwaith ac, o bosib, lledaenu’r feirws.”

“Mae Awdurdodau Lleol unwaith eto wedi wynebu’r her o sicrhau bod pawb sydd angen cymorth ariannol drwy gydol y pandemig yn ei gael wrth inni gwblhau’r gwaith o alluogi i bobl wneud cais yn uniongyrchol drwy’r ap. Maent eisoes wedi bod yn gweithio’n ddiflino a hoffwn ddiolch iddynt unwaith eto am eu gwaith caled a’u hymroddiad.”

“Byddaf yn parhau i adolygu’r cynllun i sicrhau bod y bobl sydd â’r angen mwyaf yn cael y cymorth y maent ei angen i hunanynysu a lleihau trosglwyddiad y feirws.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.