16.7 C
Llanelli
Thursday, October 15, 2026
Home hywel dda health board Pobl sy’n cysgodi i dderbyn brechlyn mewn canolfan frechu dorfol

Pobl sy’n cysgodi i dderbyn brechlyn mewn canolfan frechu dorfol

0
573
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0364 scaled
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0364 scaled

Mewn ymateb i gyflenwadau brechlyn COVID-19 a gadarnhawyd ar gyfer yr wythnos i ddod, bydd pobl sy’n cysgodi ac nad ydynt eisoes wedi cael cynnig apwyntiad gan eu meddygon teulu yn cael eu gwahodd i dderbyn eu brechiad mewn canolfan frechu dorfol, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau.

Cyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon y byddai pawb yng ngrŵp blaenoriaeth 4 JCVI (70 i 74 oed neu’n hynod fregus yn glinigol (cysgodi)) yn derbyn y brechlyn gan eu meddygfa.

Fodd bynnag, yn dilyn cadarnhad o nifer y brechlynnau sydd ar gael i ardal y bwrdd iechyd yr wythnos nesaf, mae angen gofyn i oddeutu 2,000 o bobl o’r grŵp blaenoriaeth hwn fynd i ganolfan frechu dorfol yn lle er mwyn osgoi unrhyw oedi cyn derbyn eu brechlyn.

Bydd pobl rhwng 70 a 74 oed yn parhau i dderbyn eu brechlyn mewn meddygfa fel y cadarnhawyd yn flaenorol.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hon yn raglen gyflym iawn ac weithiau bydd angen i ni ddiweddaru ein cynlluniau ar sail cyflenwad brechlyn wedi’i gadarnhau, a all newid wythnos ar ôl wythnos.

“Ymddiheurwn am unrhyw ddryswch y gallai’r newid hwn fod wedi’i achosi ond byddwch yn sicr bod y penderfyniad hwn yn angenrheidiol er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen i’r grŵp hwn sy’n agored i niwed yn glinigol dderbyn eu brechlyn. Cysylltir yn uniongyrchol â phobl sy’n cysgodi ynghylch eu hapwyntiad.

“Bydd pobl rhwng 70 a 74 oed yn parhau i gael eu gwahodd i dderbyn eu brechlyn mewn meddygfa a hoffem sicrhau’r grŵp hwn ein bod wedi cadarnhau cyflenwadau brechlyn i frechu pawb yn y grŵp oedran hwn.”

Mae canolfannau brechu torfol yn darparu amgylchedd diogel, lle i gynnal pellter cymdeithasol wrth ganiatáu i fwy o bobl gael eu brechu mor effeithlon a chyn gynted â phosibl. Mae’n hanfodol eich bod yn gwneud pob ymdrech i ddod i’ch apwyntiad.

I ddarganfod mwy am eich canolfan frechu torfol agosaf, ewch i Canolfannau brechu torfol – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.