16.6 C
Llanelli
Saturday, May 9, 2026
Home Charity Ydy pobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu yn cael cyfle teg...

Ydy pobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu yn cael cyfle teg yng Nghymru?

0
424
adoption paper family three spelled out play letters 48558374
adoption paper family three spelled out play letters 48558374

Elusen yn dod â gwleidyddion Cymru ynghyd i drafod mabwysiadu

Mae’r elusen flaenllaw Adoption UK yn dod â chynrychiolwyr o bum prif blaid wleidyddol Cymru ynghyd i drafod mabwysiadu, cyn Etholiadau’r Senedd yn 2021.

Bydd y digwyddiad hustyngau ar-lein, o’r enw: Ydy pobl ifanc wedi’u mabwysiadu yn cael cyfle teg yng Nghymru? yn cael ei gynnal ddydd Mercher 10 Chwefror, rhwng 7.30pm a 9pm.

Bydd y panel yn cynnwys Julie Morgan (Llafur Cymru), Dirprwy Weinidog presennol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Jo Watkins (Ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru);  Helen Mary Jones, (Plaid Cymru) AS Cyfredol; Neil McEvoy, (Propel) AS Cyfredol; a’r Ymgeisydd Anthony Slaughter (Plaid Werdd Cymru). 

Bydd pob panelwr yn nodi cynlluniau eu plaid i gefnogi mabwysiadu yng Nghymru, gyda chwestiynau gan y gynulleidfa i ddilyn. Bydd rhai cwestiynau’n cael eu cyflwyno ymlaen llaw tra bydd eraill yn cael eu gofyn yn fyw, ar y noson.

Dywedodd Ann Bell, Cyfarwyddwr Cymru Adoption UK: “Mae hwn yn gyfle gwych i holi cynrychiolwyr o’r pleidiau gwleidyddol sy’n cystadlu am yr hyn y byddant yn ei wneud i deuluoedd sy’n mabwysiadu a p’un a fyddant yn rhoi blaenoriaeth i fabwysiadu. Byddwn yn annog y gymuned fabwysiadu a’r rhai sy’n gweithio yn y sector i ddod draw i glywed yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud. 

“Mae’r weinyddiaeth bresennol wedi cymryd camau gwych i fuddsoddi mewn cymorth i deuluoedd sy’n mabwysiadu dros y pum mlynedd diwethaf. Ond gwyddom fod canlyniadau i blant wedi’u mabwysiadu yn dal i lusgo ymhell y tu ôl i’w cyfoedion. Mae’n hanfodol bod y llywodraeth nesaf yn blaenoriaethu teuluoedd sy’n mabwysiadu i helpu i bontio’r bwlch hwn. Rydym yn gwybod bod angen cymorth ar bobl ifanc wedi’u mabwysiadu i’w helpu i gyflawni eu potensial.”

Mae cofrestru ar gyfer digwyddiad hustyngau’r etholiad, a gynhelir gan ddefnyddio fformat Gweminar ar Zoom, ac a fydd yn cael ei gadeirio gan Betsan Powys ar BBC Cymru, bellach ar agor yn http://bit.ly/hustings2021Y dyddiad cau i gofrestru yw 3pm ddydd Mercher 10 Chwefror.

Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno eu cwestiynau unwaith y byddant wedi cofrestru.

Bydd cyfleusterau cyfieithu’n cael eu darparu fel y gall unrhyw un sydd am gymryd rhan yn y Gymraeg wneud hynny a bydd eu cwestiynau’n cael eu cyfieithu i’r Saesneg.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here