14.9 C
Llanelli
Sunday, September 20, 2026
Home Local News Partneriaeth Ysgolion yn hybu buddion dysgu yn yr awyr agored

Partneriaeth Ysgolion yn hybu buddion dysgu yn yr awyr agored

0
540
Johnston 2
Johnston 2

Mae dysgu yn yr awyr agored ar draws y sir wedi cael hwb yn ystod y 12 mis diwethaf o ganlyniad i gyllid ychwanegol a sicrhawyd gan brosiect Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS), sydd wedi talu cost Cydgysylltydd i weithio’n uniongyrchol gydag ysgolion.

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Leol Cod Post y Bobl ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Cydgysylltydd PODS wedi gallu helpu i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm ar dir yr ysgol ac mewn mannau awyr agored lleol.

Rhan arall o rôl y Cydlynydd yw dod â sefydliadau lleol a chenedlaethol ynghyd, gan gynnwys tîm Darganfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, athrawon a phenaethiaid. Gan gyfuno eu gwybodaeth a’u harbenigedd amrywiol, nod y bartneriaeth yw rhannu arferion da a hybu buddion cynnal gwersi yn yr awyr agored.

Dywedodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro: “Yr haf diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored wrth ddychwelyd i ysgolion ar ôl y cyfnod clo. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i gefnogi hyn drwy roi mwy o gyfleoedd i blant ac athrawon fynd â’u dysgu y tu allan.

“Ry’n ni eisoes wedi ymgysylltu â nifer o ysgolion ar draws Sir Benfro ac wedi cynhyrchu gweminarau byw. Mae adnoddau ategol ar gyfer y rhain ar gael ar HWB. Mae hyn wedi’i gwneud hi’n bosib cyrraedd hyd yn oed rhagor o ysgolion gyda gwybodaeth ymarferol, ysbrydoliaeth a chyngor ar ddarparu rhaglenni dysgu yn yr awyr agored.

“Mae llawer o ysgolion wedi manteisio ar y cyfle i ddatblygu tir yr ysgol i gefnogi dysgu yn yr awyr agored ac, yn fwy diweddar, mae Ysgol Gymunedol Neyland wedi cyflwyno gwersi yn yr awyr agored bob dydd Gwener.” 

Yn ystod y cyfnod clo diweddaraf, mae’r gwaith wedi parhau ar-lein ac mae gwefan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro wedi’i datblygu i ddarparu rhai adnoddau dysgu i athrawon. Mae syniadau dysgu yn yr awyr agored ac ysbrydoliaeth i athrawon a rhieni hefyd yn cael eu rhannu ar dudalen Facebook PODS (Pembrokeshire Outdoor Schools) ac ar Twitter @PembsOutdoorSch.

I gael rhagor o wybodaeth am Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro cysylltwch â Bryony Rees drwy e-bostio bryonyr@arfordirpenfro.org.uk neu ffonio 07870 488014. Mae gwefan PODS i’w gweld yn www.pembrokeshireoutdoorschools.co.uk.  


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.