16 C
Llanelli
Tuesday, July 21, 2026
Home Newyddion Lle Llywodraeth Cymru’n penodi asesydd diogelu’r amgylchedd

Llywodraeth Cymru’n penodi asesydd diogelu’r amgylchedd

0
443
WG positive 40mm
WG positive 40mm

Mae cyfreithiwr amgylcheddol a gwledig profiadol iawn wedi cael ei phenodi’n asesydd interim diogelu’r amgylchedd Cymru.

Bydd y Dr Nerys Llewelyn Jones yn dechrau ar ei swydd newydd ar 1 Mawrth.

Cafodd y swydd dros dro ei chreu yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y swydd yn para dwy flynedd ac yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru’n datblygu corff goruchwylio amgylcheddol parhaol, gan ganiatáu cyfnod pontio rhwng y trefniadau interim hyn a’r rhai newydd.

Bydd y Dr Llewelyn Jones yn ystyried y materion y bydd y cyhoedd yn eu codi am y ffordd y mae cyfreithiau amgylcheddol yn cael eu gweithredu yng Nghymru ac yn rhoi cyngor ac argymhellion i’r Gweinidog. Bydd ei rôl yn ategu rolau cyrff rheoleiddio presennol Cymru.

Cyhoeddwyd penodiad y Dr Llewelyn Jones heddiw (Mercher, 24 Chwefror) gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Mae’r Dr Llewelyn Jones yn gweithio fel partner rheoli yn ei phractis o gyfreithwyr gwledig, Agri Advisor. Mae hefyd yn Aelod o Banel Perchenogion Tir Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru, yn Is-gadeirydd y Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol ac mae ganddi brofiad helaeth o sectorau amaethyddol ac amgylcheddol Cymru.

Mae hi’n cadw defaid yn ei fferm yn Sir Gâr lle mae’n byw gyda’i gŵr a’i dau grwt ifanc.

Dywedodd y Dr Llewelyn Jones: “Dwi’n hynod hapus fy mod wedi cael fy mhenodi i’r swydd hon a dwi’n ddisgwyl mlaen at ystyried sut y mae cyfreithiau amgylcheddol yn gweithio yng Nghymru.”

Dywedodd y Gweinidog: “Rwy’n falch bod y Dr Llewelyn Jones yn ymuno â ni pan fydd angen ei harbenigedd a’i phrofiad i’n helpu i ddeall beth sydd angen ei wneud wrth inni ddatblygu corff goruchwylio parhaol i Gymru.

 “Gan ddymuno’r gorau iddi yn ei swydd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.