16.8 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Mae dal amser i gymryd rhan mewn raffl wych a drefnwyd gan...

Mae dal amser i gymryd rhan mewn raffl wych a drefnwyd gan Gareth Whalley o Comins Coch, Aberystwyth, i gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda.

0
688
Heather Whalley etc scaled
Heather Whalley etc scaled

Mae’r digwyddiad https://raffall.com/179793/enter-raffle-to-win-hywel-dda-raffle-extravaganza-hosted-by-gareth-whalley yn dod i ben yr wythnos hon ac mae eisoes wedi codi dros £1,320. Mae Gareth hefyd yn bwriadu cymryd rhan mewn naid am nawdd yn ddiweddarach eleni, fydd yn dod â cyfanswm ei ymgyrch i dros £1,760.

Dywedodd Gareth: “Gyda Rhian (fy chwaer) wedi geni Efan, bachgen bach hyfryd yn Glangwili a’r gofal eithriadol y mae wedi’i gael yno rwy’n fwy penderfynol nag erioed i gadw’r momentwm i fynd nes bydd y raffl yn gorffen ddydd Llun.”

Meddyg GIG yw cariad Gareth. Ychwanegodd: “Gan wybod pa mor brysur yw hi ar hyn o bryd, nid wyf wedi ei gweld ers mis Rhagfyr oherwydd y cyfyngiadau ac rydw i wir eisiau codi cymaint ag y gallaf gan fy mod i’n falch ohoni a’r hyn mae hi’n ei wneud.

“Rwy’n gobeithio y cawn ni newyddion cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ar leddfu cyfyngiadau yn yr adolygiad nesaf a bydd yn rhoi rhywbeth i’r enillwyr lwcus edrych ymlaen ato wedi Gaeaf anodd iawn.”

Mae Heather, mam Gareth yn nyrs yn Hywel Dda ac mae wedi gweithio yn y GIG ers dros 40 mlynedd. Meddai, “Mae’r GIG wedi golygu llawer iawn i ni fel teulu. Rydym yn falch iawn o Gareth ar gwaith y mae’n ei wneud i godi arian i’r GIG. Mae wedi gwneud rhywbeth nad yw’n gyfforddus yn ei wneud trwy wneud naid am nawdd a nawr mae wedi penderfynu codi arian pellach trwy gynnal raffl gyda gwobrau gwych sydd wedi’u rhoi gan gwmnïau lleol o Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. ”

Gareth Whalley

Meddai Gareth, “Rwy’n gwneud hyn i ddweud diolch enfawr i staff y GIG, sydd wedi bod trwy gymaint. Rwyf hefyd eisiau gwneud rhywbeth i godi ysbryd y cyhoedd a hefyd i roi’r cyfle i ennill gwobrau gwych.

“Mae’r raffl yn cymryd mwy o drefnu na’r naid am nawdd, ond rydw i wedi mwynhau trefnu gwobrau gwych. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl fusnesau lleol am y rhoddion anhygoel o garedig, hebddyn nhw ni fyddai wedi bod yn bosibl, ”meddai.

Heather Whalley 

Meddai Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Gareth am wynebu ei ofnau a gwneud naid am nawdd i ni yn ddiweddarach eleni, ac mae’n wych ei fod wedi dod o hyd i ffordd wych arall o godi arian a fydd yn darparu eitemau ychwanegol i gleifion a staff y tu hwnt i wariant craidd y GIG. ”

Yn y llun gwelir mam Gareth a’i chydweithwyr GIG yng Nghanolfan Thomas Parry yn Aberystwyth a

Gareth a rhai o’r gwobrau a roddwyd gan fusnesau lleol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.