15.3 C
Llanelli
Wednesday, September 16, 2026
Home Local News Astudiaeth o effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant

Astudiaeth o effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant

0
491
pexels dominika roseclay 2682543 scaled
pexels dominika roseclay 2682543 scaled

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe yn archwilio effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol, iechyd meddwl a lles plant yng Nghymru. 

Er bod ysgolion yn paratoi i groesawu disgyblion yn ôl, bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol yn parhau i darfu ar chwaraeon a gweithgareddau chwarae. 

Yn ôl y gwyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff Dr Kelly Mackintosh, Dr Melitta McNarry, yr Athro Gareth Stratton a Dr Denise Hill, gall newidiadau o’r fath effeithio’n sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol a lles plant a phobl ifanc. 

Er bod plant yn llai tebygol o gael eu heintio gan Covid-19, mae’r effeithiau cyd-destunol ehangach yn fwy tebygol o amharu arnynt. O ganlyniad i hynny, mae plant yn fwy tebygol o ddioddef yn wael o straen, gorbryder, problemau ymddygiadol ac ofn sy’n gysylltiedig â’r pandemig. 

Meddai Dr Mackintosh: “Bydd y prosiect hwn yn gwella ein dealltwriaeth yn sylweddol o effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc ac yn ein helpu i roi cyfarwyddyd ynghylch pa strategaethau y mae eu hangen i leihau’r effeithiau hyn, ar hyn o bryd ac yn y tymor hwy.”  

Mae’r ymchwilwyr yn datgan bod pryder cynyddol y gall y patrymau byw eisteddog presennol sy’n deillio o’r pandemig gael eu gwreiddio wrth i blant a phobl ifanc golli’r arfer o fod yn gorfforol fywiog. 

Bydd eu hastudiaeth, Lefelau gweithgarwch corfforol, iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ystod Covid-19, yn monitro pobl ifanc yng Nghymru rhwng wyth ac 16 oed dros y flwyddyn nesaf. 

Mae Dr Liezel Hurter, cynorthwy-ydd ymchwil Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru – sy’n bartneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru a sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a arweinir gan Brifysgol Abertawe – wedi recriwtio cyfranogwyr o ysgolion ledled Cymru. 

Mae’r gwaith ymchwil yn cynnwys arolwg o weithgarwch corfforol, iechyd a lles wedi’i deilwra, gan gynnwys is-sampl o 800 o blant nodweddiadol wedi’u dewis ar hap i wisgo dyfeisiau ar eu harddyrnau i fonitro eu gweithgarwch. 

Bydd y dyfeisiau hyn yn cofnodi gweithgarwch y bobl ifanc dros gyfnod o saith niwrnod ar adegau amrywiol: gwneir hyn am y tro cyntaf yn ystod y cyfyngiadau symud ac yna ar adegau eraill ar ôl iddynt ddychwelyd i’r ysgol. 

Meddai Dr Mackintosh: “Rydym am nodi lefelau gweithgarwch a lles presennol plant cyn olrhain a fydd y rhain yn newid yn ystod cyfnodau amrywiol y pandemig. 

“Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i nodi effaith fyrdymor a hirdymor y pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig.”  

Mae’r ymchwilwyr yn datgan y bydd y prosiect yn arbennig o bwysig wrth helpu i gefnogi ysgolion wrth iddynt geisio hyrwyddo gweithgarwch plant a phobl ifanc a’u hymwybyddiaeth o bwysigrwydd byw’n iach yn ystod cyfnod argyfwng Covid-19 a’r tu hwnt. 

Rhennir canfyddiadau rhagarweiniol y grŵp drwy flogiau, ffeithluniau a phodlediadau. 

Meddai Dr Mackintosh: “Rydym am ddefnyddio’r canlyniadau i lywio strategaethau i hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc yng nghyd-destun materion ehangach sy’n gysylltiedig â Covid-19.” 

Ychwanegodd: “Gan y cydnabuwyd eisoes fod anweithgarwch corfforol yn her fawr i iechyd y cyhoedd yn yr 21ain ganrif cyn dyfodiad coronafeirws, ni ellir gorbwysleisio graddau’r broblem hon a’i goblygiadau. 

“Mae cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl, a’r cysylltiad rhyngddynt, yn hollbwysig.” 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.