15.9 C
Llanelli
Saturday, September 12, 2026
Home Local News £18.7 miliwn er mwyn parhau â chymhellion i helpu i recriwtio mwy...

£18.7 miliwn er mwyn parhau â chymhellion i helpu i recriwtio mwy o brentisiaid

0
466
WG positive 40mm
WG positive 40mm

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £18.7 miliwn yn rhagor er mwyn ymestyn cymhellion i helpu busnesau i recriwtio prentisiaid yng Nghymru.

Mae’r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr, a fydd bellach yn rhedeg hyd at 30 Medi, yn rhan allweddol o’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud mewn ymateb i Covid er mwyn helpu busnesau a gweithwyr i adfer ar ôl effeithiau’r coronafeirws.

Lansiwyd y cymhellion yn hydref 2020, ac mae mwy na 1,300 o brentisiaid wedi cael eu recriwtio eisoes.

Mae’r newyddion hyn heddiw yn golygu y bydd busnesau’n gallu hawlio hyd at £4,000 ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed y byddant yn eu cyflogi. Mae hyn wedi codi o’r £3,000 o grant a oedd yn cael ei gynnig yn flaenorol.

Bydd y cymhelliad o £4,000 ar gael i fusnesau a fydd yn cyflogi prentis ifanc am o leiaf 30 awr yr wythnos.

Gallai busnesau yng Nghymru hefyd gael £2,000 ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed y byddant yn ei gyflogi am lai na 30 awr yr wythnos, sy’n gynnydd o £500.

Mae’r cymhellion uwch ar gyfer cyflogwyr yn cydnabod effaith economaidd arbennig Covid-19 ar bobl dan 25 oed.

Ar gyfer gweithwyr 25 oed a throsodd, gall busnesau gael £2,000 ar gyfer pob prentis newydd y byddant yn ei gyflogi ar gontract 30 awr neu fwy, a chymhelliant o £1,000 ar gyfer prentisiaid sy’n gweithio llai na 30 awr.

Ni fydd unrhyw fusnes yn cael hawlio taliadau am fwy na deg o ddysgwyr.

Mae cyllid penodol ar gael hefyd i recriwtio pobl anabl ac ar gyfer gweithwyr sydd wedi colli prentisiaeth flaenorol oherwydd y coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyrraedd ei tharged o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon, ac mae’r cymhellion yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth pwysig i brentisiaid.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad mawr i’n heconomi, a bydd ymestyn a chynyddu ein cymhellion yn cynnig cyfleoedd pwysig i bobl o bob oed, yn ogystal â’n cymuned fusnes.

“Rydyn ni eisoes yn gweld yr effaith gadarnhaol y mae’r cynllun yn ei chael, a dw i am weld hynny’n parhau.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth hollbwysig i fusnesau ac i weithwyr drwy gydol y pandemig ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar hynny.

“Mae’r ymrwymiad rydyn ni wedi’i wneud mewn ymateb i Covid yn rhan allweddol o’n Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi, a bydd yn hanfodol wrth inni ailadeiladu economi a fydd nid yn unig yn fwy llewyrchus ond hefyd yn decach ac yn wyrddach nag erioed o’r blaen.”

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans: “Mae prentisiaethau yn helpu pobl i ennill sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel, ac yn rhoi cyfleoedd i fusnesau a’r economi ffynnu.

“Mae’r cyllid ychwanegol rydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw, sy’n cynnwys £8.7m i ymestyn y Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr, yn mynd i barhau i helpu cyflogwyr i recriwtio prentisiaid a phobl ifanc a gafodd eu taro galetaf gan y pandemig.”

Mae ymgyrch newydd Llywodraeth Cymru, ‘Yn Gefn i Chi’, a gafodd ei lansio yr wythnos diwethaf, hefyd yn annog cwmnïau ym mhob cwr o Gymru i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau ar gyfer Busnesau i recriwtio ac i feithrin sgiliau gweithwyr newydd a’u gweithwyr presennol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.