16.3 C
Llanelli
Wednesday, September 2, 2026
Home Newyddion Lle Adeiladau Awdurdod y Parc yn troi’n felyn er cof am ddioddefwyr Covid-19

Adeiladau Awdurdod y Parc yn troi’n felyn er cof am ddioddefwyr Covid-19

0
493
OyPFB
OyPFB

Cafodd adeiladau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro eu goleuo heno i gofio am y rheini sydd wedi colli eu bywydau oherwydd Covid-19 a phob un y mae’r pandemig byd-eang wedi effeithio arno.

Cafodd pencadlys yr Awdurdod yn Noc Penfro, Oriel y Parc yn Nhyddewi a Chastell Caeriw eu goleuo’n felyn fel rhan o’r digwyddiad Goleuo Cymru i gofio i nodi blwyddyn ers dechrau cyfnod clo cyntaf y DU.

Mae calonnau melyn wedi dod yn symbol o gofio yn ystod pandemig y Coronafeirws. Bydd cartrefi ac adeiladau cyhoeddus ar draws y wlad yn ymuno yn y digwyddiad coffa cenedlaethol ar 23 Mawrth, a bydd staff yr Awdurdod yn cymryd rhan mewn munud o dawelwch am hanner dydd.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Er bod nifer enfawr y marwolaethau coronafeirws ledled y byd yn gallu bod yn anodd eu deall yn iawn weithiau, dylem gofio bod dros 450 o bobl wedi colli eu bywydau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn unig.

“Rydym ni hefyd yn cydymdeimlo â’r rheini sy’n dal i wella o effeithiau Covid-19, neu sy’n byw gydag effeithiau dilynol y pandemig.

“Hoffwn hefyd ddiolch ar ran yr Awdurdod i’r rheini sydd wedi bod yn gweithio i gadw pawb yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn ac sy’n parhau i wneud hynny, yn ogystal â’r rheini sydd wedi cefnogi’r gweithwyr hyn drwy aros gartref a dilyn y rheolau i helpu i leihau lledaeniad Covid-19.

“Mae pawb wedi aberthu llawer dros y flwyddyn ddiwethaf, ac roeddem yn teimlo bod angen nodi’r flwyddyn hon drwy ymuno â’r genedl i fyfyrio wrth i ni ddechrau edrych yn ofalus tuag at y golau ym mhen draw’r twnnel.”

Mae’r digwyddiad Goleuo Cymru i gofio wedi cael ei hyrwyddo gan grŵp Facebook Covid19 Families-Wales, sydd wedi cael ei sefydlu i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol am y Coronafeirws, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/coronafeirws.

Diwedd

Capsiwn: Cafodd Parc Llanion, Oriel y Parc a Chastell Caeriw eu goleuo’n felyn ar 23 Mawrth 2021 fel rhan o’r digwyddiad Goleuo Cymru i Gofio.

Cyhoeddwyd gan Medi George, Swyddog Cyfathrebu’r Awdurdod Parc Cenedlaethol, rhif ffôn 01646 624867 neu e-bostiwch medig@pembrokeshirecoast.org.uk.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.