15.9 C
Llanelli
Wednesday, March 18, 2026
Home hywel dda health board Newid dros dro i brif fynedfa Ysbyty Glangwili

Newid dros dro i brif fynedfa Ysbyty Glangwili

0
571
Ysbyty Glangwili General hospital Carmarthen which is part of the Hywel Dda Health Board
Ysbyty Glangwili General hospital Carmarthen which is part of the Hywel Dda Health Board

Bydd prif fynedfa Ysbyty Glangwili ar gau dros dro am bum wythnos fel rhan o waith parhaus i wella cyfleusterau mamolaeth yn yr ysbyty.

Bydd y fynedfa hon yn symud rhwng Mawrth 31 a Mai 4 i ganiatáu newid y brif fynedfa, gosod lloriau newydd y tu mewn i’r fynedfa, ac adeiladu grisiau newydd a phalmantu’n allanol.

Bydd mynediad i’r rhai sy’n ymweld â Swît Cadi, Ward Cyn-enedigol, Clinig Dydd Cyn-enedigol, Uned dan Arweiniad Bydwragedd, Ward Geni a Ward Dinefwr trwy’r hen fynedfa nos.

Bydd pobl sydd angen mynediad i rywle arall yn yr ysbyty yn cael eu hailgyfeirio trwy fynedfa’r Cleifion Allanol.

Bydd arwyddion yn eu lle a bydd stondin cwrdd a chyfarch yn yr Adran Cleifion Allanol.

Dywedodd Lisa Humphrey, Rheolwr Cyffredinol Dros Dro Menywod a Phlant ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Er mwyn ein galluogi i symud i’r cam nesaf yng nghynllun gwella’r gwasanaethau mamolaeth, mae’n angenrheidiol i’r brif fynedfa gael ei chau dros dro ar gyfer adnewyddu”

“Rydym am sicrhau pobl y bydd sŵn ac aflonyddwch yn cael ei gadw i’r lleiafswm a bod trefniadau lleol yn cael eu gwneud i sicrhau bod teuluoedd, ymwelwyr, ein staff ac asiantaethau allanol yn cael gwybod am y gwaith hwn.

“Diolch am eich amynedd. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.