15.9 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home hywel dda health board Seremoni Wobrwyo Siryf Uchel Dyfed

Seremoni Wobrwyo Siryf Uchel Dyfed

0
475
281363343.gallery
281363343.gallery

Cynhaliwyd seremoni gyflwyno ar 15 Mawrth gan Uchel Siryfion Cymru, gan weithio ochr yn ochr â’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) i wobrwyo cynrychiolwyr, unigolion a thimau, i gydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mynychwyd y seremoni, a gynhaliwyd yn rhithiol ar MS Teams gan: Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi Dyfed, Miss Sara Edwards, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan MS, Denise Llewelyn, MBE, FRCN, Aelod o’r Bwrdd RCN, yn ogystal â Prif Weithredwr Hywel Dda, Steve Moore, a Chyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, Mandy Rayani.

Enwebodd y Coleg Nyrsio Brenhinol saith cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i dderbyn gwobrau ar eu rhan eu hunain a’u cydweithwyr fel a ganlyn:

• Ann Griffiths (Stiward a Chynrychiolydd Dysgu)

• Ann Murphy (Stiward a Chynrychiolydd Dysgu)

• Sandra Watson (Stiward)

• Yvonne Thomas (Cynrychiolydd Stiward a Dysgu)

• Andrea Mills (Stiward)

• Susan Morgan (Cynrychiolydd Dysgu)

• Tracy Asbridge (Stiward)

Enwebodd ein Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, Mandy Rayani hefyd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, Sharon Daniel a’r tîm atal a rheoli heintiau, a Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio a Gwella Ansawdd, Mandy Davies a’r Ganolfan Orchymun Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Yn ystod y seremoni, dyfarnwyd Tystysgrifau Cydnabyddiaeth Arbennig Uchel Siryf i gynrychiolwyr RCN i bob enwebai. Mynegwyd diolch diffuant i bawb gan yr Uchel Siryf, yr Arglwydd Raglaw a’r Gweinidog wrth iddynt ddatgan bod holl staff y GIG wedi bod yn anhygoel a bod ein dyled yn fawr iddynt.

Dywedodd Mandy Rayani: “Hoffwn ddiolch i’r Siryfion am y seremoni wobrwyo a thalu teyrnged i’r nyrsys a’r staff cymorth gweithgar yma yn Hywel Dda. Maent wedi gweithio’n ddiflino trwy gydol y pandemig COVID-19 i ddarparu gwasanaeth a gofal arbennig i’n cleifion ac mae’r seremoni wobrwyo hon wedi bod yn ffordd hyfryd o ddangos ein gwerthfawrogiad o’r proffesiwn nyrsio yn ystod yr amser digynsail hwn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.