13 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Newyddion Lle Strategaeth newydd i gefnogi Cymru i ddefnyddio digidol yn llawn

Strategaeth newydd i gefnogi Cymru i ddefnyddio digidol yn llawn

0
557
Digital devices scaled
Digital devices scaled

Mae sicrhau bod pobl yn hyderus ac yn llawn cymhelliant i wneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol, yn gallu cael gafael ar wasanaethau allweddol mewn ffyrdd newydd a bod ganddynt y cysylltedd sydd ei angen arnynt wrth wraidd Strategaeth Ddigidol newydd Llywodraeth Cymru i Gymru sydd wedi cael ei chyhoeddi heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi casglu syniadau gan amrywiaeth o bobl mewn dull arloesol i gasglu syniadau a barn ar gyfer y strategaeth drwy annog pobl, busnesau a sefydliadau ledled Cymru i ddweud eu dweud a’i wneud cystal ag y gall fod.

Nod y strategaeth yw sicrhau bod digidol yn gwella bywydau pawb yng Nghymru ac yn helpu’r economi i dyfu. Mae hefyd yn adeiladu ar fuddsoddiadau blaenorol Llywodraeth Cymru fel Iechyd Digidol, Rhaglen Technoleg Addysg Hwb a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Mae cynllun cyflawni sy’n nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd hefyd wedi cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae cynllunio gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr yn hollbwysig i gyflawni’r strategaeth, yn ogystal â gwneud y defnydd gorau o ddata a chefnogi busnesau i gyflymu’r broses o fabwysiadu digidol i weithio’n ddoethach a sbarduno arloesedd a fydd yn eu rhoi yn y sefyllfa orau bosibl i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd yn y dyfodol.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi: “Mae pandemig COVID-19 wir wedi dangos i ni bwysigrwydd digidol a thechnoleg o ran sut rydym yn cysylltu â’n gilydd, yn cael mynediad at wasanaethau ac yn prynu nwyddau, a sut rydym yn gweithio.

“Mae ein Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi ein dull o wneud y rhain i gyd yn well ac yn haws i bobl, cymunedau a busnesau.

“Nid yw hyn yn ymwneud â chyfrifiaduron yn unig na sut rydym yn defnyddio ein ffonau clyfar, mae hyn yn ymwneud â gyrru gwasanaethau gwell ymlaen i bobl.

“Mae’n ymwneud â chreu ac adeiladu gwasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon, dwyieithog a symlach fel y gallwn elwa o’r canlyniadau gorau nawr ac yn y dyfodol.

“Rydyn ni eisiau i bobl o bob oed allu manteisio ar y rhyngrwyd a theimlo’n hyderus yn gwneud hynny a datblygu eu sgiliau ar hyd y ffordd.

“Byddwn hefyd yn gweithio i annog busnesau i gofleidio digidol yn llawn fel bod economi Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang tra’n lledaenu cyfoeth, gwydnwch a lles ledled Cymru.

“Mae digidol a thechnoleg yn mynd i chwarae rhan fwy fyth yn ein bywydau yn y dyfodol ac mae’n hanfodol ein bod yn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd sy’n dod gyda hwy.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu ein strategaeth, ond dim ond dechrau sgwrs gyda phobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau yw hyn wrth i ni adeiladu Cymru gwirioneddol ddigidol.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.