7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Newyddion Lle Plaid Cymru yn addo creu Ynni Cymru – cwmni ynni cenedlaethol i...

Plaid Cymru yn addo creu Ynni Cymru – cwmni ynni cenedlaethol i Gymru

0
579
Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth

Heddiw, mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi nodi sut y byddai cynlluniau ei blaid i greu cwmni ynni cenedlaethol – Ynni Cymru – sydd wedi’i leoli ar Ynys Môn yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau parthed newid hinsawdd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS fod gan Gymru botensial enfawr mewn cynhyrchu trydan di-garbon, ac y byddai’r corff newydd yn arwain datblygiadau o’r fath, gan ddod â buddion i gymunedau lleol a Chymru gyfan, wrth ein helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau amgylcheddol.

Ychwanegodd ymgeisydd Senedd Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn comisiynu rhestr genedlaethol o botensial ynni gwyrdd – Atlas Ynni – i nodi prosiectau a datblygiadau newydd posibl.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae gan Gymru lawer iawn o gyfoeth naturiol ond mae angen i ni elwa ar y buddion hynny i gymunedau lleol, i Gymru ac i’n hamgylchedd.

“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru – Ynni Cymru – a fyddai’n rhoi mwy o reolaeth inni dros gynhyrchu trydan.

“Rwy’n falch iawn y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn lleoli Ynni Cymru ar Ynys Môn lle mae potensial enfawr heb ei gyffwrdd o ran adnoddau naturiol a lle byddai cymunedau lleol yn elwa o hwb economaidd datblygiad newydd sy’n dod i’r ynys.

“Byddai’n gyfrifol am fapio Atlas Ynni – rhestr genedlaethol o botensial ynni gwyrdd a fydd yn caniatáu inni nodi cyfleoedd i ddatblygu cwmnïau Cymru newydd a phrosiectau ynni cymunedol.

“Byddai ynni llanw, oddi ar ein harfordiroedd deheuol a gogleddol, gan gynnwys y prosiectau cyffrous oddi ar arfordir Ynys Môn, yn rhan fawr o hyn, yn ogystal â mapio potensial hydrogen gwyrdd a chynyddu cynhyrchiant gwynt ar y môr.

“Byddai llywodraeth Blaid hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod y gymuned leol yn berchen yn rhannol ar bob prosiect ynni adnewyddadwy newydd o leiaf.

“Mae’r rhain yn gynlluniau uchelgeisiol ond ymarferol a fydd yn helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd wrth greu swyddi medrus, â chyflog da fel rhan o adferiad economaidd cynaliadwy.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.