18 C
Llanelli
Thursday, May 28, 2026
Home Local News Cyllid Green Match yn rheswm arall dros fynd yn Wyllt am Goetiroedd

Cyllid Green Match yn rheswm arall dros fynd yn Wyllt am Goetiroedd

0
522
GREENMATCH
GREENMATCH

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gofyn i aelodau’r cyhoedd am eu cefnogaeth rhwng 22 a 29 Ebrill, i sicrhau £2,500 o gyllid ychwanegol ar gyfer yr Apêl Gwyllt am Goetiroedd.

Mae’r cyfle wedi codi ar ôl i’r Ymddiriedolaeth gael ei dewis i fod yn rhan o Ymgyrch Cronfa Green Match y Big Give. Mae’r ymgyrch yn cefnogi elusennau sy’n gweithio ar faterion amgylcheddol fel rhan o’u cenhadaeth graidd. Bydd yr holl roddion cyhoeddus a wneir i’r elusennau cysylltiedig yn ystod yr ymgyrch drwywww.thebiggive.org.uk yn cael eu dyblu hyd at gyfanswm penodol gan Hyrwyddwyr Big Give, gan gynnwys The Reed Foundation, Sefydliad Garfield Weston a nifer o sefydliadau dyngarol a chyllidwyr eraill.

Dywedodd Jessica Morgan, Swyddog Cyllid a Grantiau yn yr Ymddiriedolaeth: “Mae Cymru yn un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop ac mae llai na hanner ei choetiroedd yn goed llydanddail brodorol. Yn ogystal â darparu cynefinoedd, bwyd, diogelwch a chysylltiadau ar gyfer y bywyd gwyllt, mae coed yn chwarae rôl hollbwysig yn gwrthbwyso carbon a’r effaith niweidiol rydyn ni fel pobl wedi’i chael ar ein tirwedd.

“Bydd ymgyrch y Gronfa Green Match yn dechrau am hanner dydd ar Ddiwrnod y Ddaear (dydd Iau 22 Ebrill) ac yn gorffen wythnos yn ddiweddarach, dydd Iau 29 Ebrill am hanner dydd. Bydd unrhyw roddion a wneir i’r Apêl Gwyllt am Goetiroedd/ Wild about Woodlands drwy wefan Big Give yn ystod y dyddiadau hyn yn cael eu dyblu gan arian Hyrwyddwr yr elusen, nes bydd yr arian cyfatebol wedi dod i ben neu nes bod yr ymgyrch wedi cau, pa un bynnag fydd yn dod yn gyntaf.”

Lansiwyd yr Apêl Gwyllt am Goetiroedd yn 2020 gyda’r nod o brynu, plannu a diogelu dros 1,000 o goed ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r ardal gyfagos. Bydd y coed hyn yn darparu cynefinoedd newydd ar gyfer natur ac yn cynnal bioamrywiaeth. Gyda digon o gyllid, y gobaith yw datblygu coetir cymunedol newydd yn y Parc Cenedlaethol, a fydd yn agored i bawb.

I ddyblu eich rhodd, ewch i https://donate.thebiggive.org.uk a theipio “Wild about Woodlands” yn y blwch ‘Find a Charity’. Rhaid i bob rhodd gael ei gwneud gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl Gwyllt am Goetiroedd, ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/gwyllt-am-goetiroedd.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here