7.7 C
Llanelli
Monday, March 16, 2026
Home Newyddion Lle Llyfr newydd gan academydd yn dathlu brwdfrydedd gydol oes dros griced a...

Llyfr newydd gan academydd yn dathlu brwdfrydedd gydol oes dros griced a ysbrydolwyd gan ei dad

0
531
Dad Andy and i Lords
Dad Andy and i Lords

Yn ogystal â bod yn llafur cariad, roedd llyfr diweddaraf darlithydd o Brifysgol Abertawe yn gyfle i dalu teyrnged i’r dyn a ysbrydolodd ei frwdfrydedd dros griced. 

Caiff Cricketing Lives: A Characterful History from Pitch to Page gan Dr Richard Thomas ei gyhoeddi y mis nesaf. Mae’n edrych yn ôl ar rai o chwaraewyr mwyaf anhygoel y gamp a’r straeon sy’n gysylltiedig â hwy. 

Cafodd Dr Thomas, athro cysylltiol y cyfryngau a chyfathrebu yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ei gyflwyno i’r gamp gan ei dad diweddar, Richard Howard Thomas, a fu’n gapten ar dîm criced y Brifysgol yn ystod y 1950au. 

Meddai: “Fy nhad oedd yr unigolyn a wnaeth ysbrydoli fy mrwdfrydedd dros y gamp, a gwnaethom dreulio amser helaeth gyda’n gilydd yn ei gwylio ac yn siarad amdani.”  

Wrth gyflwyno ei lyfr er cof am ei dad, a fu farw y llynedd, meddai Dr Thomas: “Dywedodd wrthyf am griced, gan annog fy mrwdfrydedd dros y gamp a dangos amynedd di-baid wrth geisio fy helpu i fod yn chwaraewr gwell. Er fy mod yn anobeithiol, byddai’n fy nghefnogi ac yn fy annog o hyd.” 

Ychwanegodd Dr Thomas: “Roedd yn gymhelliant mawr i mi orffen y llyfr ar ffurf ddrafft fel y gallai ei ddarllen cyn iddo farw a chynnig adborth craff ac adeiladol i mi.” 

Mae’r gwaith gorffenedig yn cynnwys rhagair gan Daniel Norcross o BBC Test Match Special. Yn ôl Wisden Cricket Monthly, dyma’r math o lyfr y byddwch am gydio ynddo – “a warm and generous history that glows with love as well as learning”. 

Mae’r cylchgrawn hefyd yn canmol gallu Dr Thomas i gael gafael ar ddyfyniadau anghyfarwydd, sef “the reference that sends you scuttling towards unfamiliar books”. 

Yn ddoniol ac yn hynod wresog, mae Cricketing Lives yn adrodd stori’r gamp drwy drafod y bobl sydd wedi ei llywio, o’r gornestau gwledig yn Lloegr yn y ddeunawfed ganrif i gyffro Uwch-gynghrair India. Mae’n olrhain W G Grace a’i hoffter o ennill tamaid; Viv Richards a’i orchestion anorchfygol; y dysgedig Wilf Wooller, a fu’n gapten chwedlonol ar Forgannwg; a Sarah Taylor, a ddisgrifir fel y wicedwr gorau yn y byd – o blith dynion a menywod – sy’n digwydd bod yn hoff chwaraewr ei dad erioed. 

Yn ogystal â bod yn arbenigwr ar gyfathrebu gwleidyddol, y cyfryngau amgen a’r sylw a roddir i etholiadau, mae Dr Thomas yn aelod o grŵp ymchwil dadansoddi gwleidyddol a llywodraethu Prifysgol Abertawe. Hefyd, ef yw golygydd The Swansea Mumbler, sef cyfrwng ar-lein i ddangos gweithgareddau adran y cyfryngau, lle mae ef wedi rhannu atgofion ei dad o’i amser ym Mhrifysgol Abertawe. 

Caiff Cricketing Lives: A Characterful History from Pitch to Page gan Dr Richard Thomas ei gyhoeddi gan Reaktion Books ar 17 Mai a’i bris yw £20

Captions:

Richard Howard Thomas (yng nghanol y rheng flaen) yn nhîm criced y Brifysgol yn ystod 1954/5 a Richard Thomas, gyda’i frawd Andy a’i dad yn Lord’s yn 2016. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.