9.7 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Newyddion Lle Cyhuddo’r Prif Weinidog o “wfftio’r Gymraeg” drwy wrthod cymryd rhan yn nadl...

Cyhuddo’r Prif Weinidog o “wfftio’r Gymraeg” drwy wrthod cymryd rhan yn nadl S4C

0
466
SianG
SianG

Mae Sian Gwenllian, ymgeisydd Plaid Cymru dros Arfon a llefarydd y blaid dros yr iaith wedi cyhuddo’r Prif Weinidog Mark Drakeford o “wfftio’r Gymraeg” drwy wrthod cymryd rhan yn nadl deledu S4C dridiau cyn Etholiad y Senedd ar Fai’r 6fed.

Dywedodd Sian Gwenllian fod penderfyniad Mr Drakeford yn “sarhad i’r iaith a chynulleidfa’r sianel genedlaethol”, yn enwedig ag yntau wedi cymryd rhan yn nadl cyfrwng Saesneg BBC Wales yr wythnos flaenorol.

Dywedodd Sian Gwenllian:

“Mae’r dadleuon teledu yn fforwm hollbwysig yn ystod yr etholiad. Maent yn rhoi’r cyfle i arweinwyr y pleidiau i osod eu stondin gerbron yr etholwyr ac yn rhoi cyfle i’r cyhoedd a’r cadeiryddion i’w dwyn i gyfri ar eu haddewidion.

“Drwy wrthod cymryd rhan yn nadl S4C wythnos nesaf, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn wfftio’r Gymraeg ac dangos nad yw’n ystyried hon i fod yn ddadl sydd yr un mor bwysig a dadl Saesneg BBC Wales yr wythnos diwethaf.

“Mae agwedd Mr Drakeford yn sarhad i’r iaith a chynulleidfa’r sianel genedlaethol ac yn tanseilio’n llwyr ymrwymiad y Blaid Lafur i filiwn o siaradwyr Cymraeg.

“Os nad yw’r Prif Weinidog ei hun yn trin yr iaith gyda pharch yna sut mae disgwyl iddo osod esiampl i eraill?”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.