6.5 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Newyddion Lle Swyddi, Swyddi, Swyddi: Mantra creu swyddi Plaid i fynd i’r afael ag...

Swyddi, Swyddi, Swyddi: Mantra creu swyddi Plaid i fynd i’r afael ag “etifeddiaeth economaidd druenus” Llafur

0
405
received 335147850387750
received 335147850387750

Heddiw mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o adael Cymru ag “etifeddiaeth economaidd druenus” o ganlyniad i fethu â chefnogi busnesau brodorol Cymru a chreu swyddi â chyflog da ar ôl 22 mlynedd mewn grym.

Dywedodd Adam Price fod Cymru wedi cael ei “chloi i mewn” i economi cyflog isel oherwydd diffyg cymhwysedd economaidd Llafur ynghyd â’u diffyg uchelgais o ran sefyll i fyny i San Steffan a mynnu mwy o bwerau.

Ychwanegodd y byddai llywodraeth Plaid yn mabwysiadu mantra “swyddi, swyddi, swyddi”, ac ailadroddodd sut y byddai cynlluniau ei blaid i greu hyd at 60,000 o swyddi mewn sectorau allweddol fel gwasanaethau cyhoeddus, seilwaith ac ynni yn “trawsnewid ein gwlad”.

Dywedodd Mr Price:

“Mae gan Plaid Cymru gynllun a fydd yn trawsnewid ein gwlad. Mae gennym gynllun a fydd yn trawsnewid yr economi, gan greu swyddi o safon ym mhob cymuned – dod â diweithdra ymhlith pobl ifanc i ben, dod â newyn plant i ben, dod â digartrefedd a thâl tlodi i ben.

“Am nifer o flynyddoedd, mae ffigurau diweithdra cymharol isel wedi cuddio un o broblemau economaidd gwaethaf Cymru – tâl tlodi. Mae gweithwyr o Gymru yn dal i ennill tua £ 50 yn llai yr wythnos na’u cymheiriaid yn Lloegr a’r Alban. 

“Dyma etifeddiaeth economaidd druenus 22 mlynedd o Lafur wrth y llyw sydd, yn bendant, wedi methu â darparu swyddi â sgiliau uchel, â chyflog da ym mhob rhan o Gymru.

“Mae’r pandemig wedi gwaethygu’r broblem hon trwy arwain at filoedd o bobl yn colli eu bywoliaeth ac yn gyrru llawer o fusnesau eraill i’r eithaf. 

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru nid yn unig yn creu mwy o swyddi gyda’n cynlluniau i gyflogi hyd at 60,000 o bobl mewn rolau cynaliadwy fel mewn gwasanaethau cyhoeddus, seilwaith ac ynni ond yn hanfodol swyddi a fyddai’n rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. 

“O Aston Martin i Ineos, mae Llafur wedi mynd ar ol corfforaethau byd-eang dro ar ôl tro wrth esgeuluso cwmnïau Cymreig sydd gyda’r potensial i ffynnu a chreu cyflogaeth ystyrlon i bobl yn eu cymunedau lleol. 

“Byddai llywodraeth Blaid yn mabwysiadu mantra “swyddi, swyddi, swyddi “, gan wneud iawn am y blynyddoedd coll y mae Cymru wedi bod dan glo mewn economi cyflog isel oherwydd ymdriniaeth anghymwys Llafur a’u diffyg uchelgais wrth sefyll i fyny i San Steffan a mynnu mwy o ysgogiadau economaidd. 

“Dim ond pan fydd gan Gymru Brif Weinidog sy’n barod i gymryd cyfrifoldeb personol am yr economi ac arwain llywodraeth sy’n cael ei hofni a’i pharchu gan San Steffan, na chaiff ei hesgeuluso a’i hanwybyddu, y bydd hyn yn newid.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.