3.2 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Farming CEIDWAD MOCH YNG NGHYMRU YN CAEL HWB YCHWANEGOL

CEIDWAD MOCH YNG NGHYMRU YN CAEL HWB YCHWANEGOL

0
446
Gwenno with pigs
Gwenno with pigs

Bydd Menter Moch Cymru yn cynnig hwb ychwanegol i ffermwyr moch yma yng Nghymru er mwyn ceisio gwella iechyd moch a hynny yn sicrhau gwell elw a gwell perfformiad iechyd y genfaint

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Menter Moch Cymru wedi cynnig cymorth ariannol i gynllunio iechyd y genfaint foch. Mae ffermwyr moch cymwys yng Nghymru ers 2019 wedi derbyn 80% o’r cyllid ar gyfer gweithredu cynllun cychwynnol i ofalu am iechyd y genfaint.

Yn ogystal â hynny roedd mwy o gefnogaeth ar gael yn y blynyddoedd dilynol ar gyfer adolygu’r cynllun.

Eleni er mwyn cynorthwyo ffermwyr moch ymhellach mae Menter Moch Cymru am gynnig 100% o gefnogaeth er mwyn sicrhau bod mwy o ffermwyr moch yma yng Nghymru yn cymryd mantais o Gynllun Iechyd y Genfaint.

I dynnu sylw at bwysigrwydd Cynllun Iechyd y Genfaint bydd Dr Alex Thomsett yn ymuno a Menter Moch Cymru mewn gwebinar a fydd yn canolbwyntio ar hyn sy’n gysylltiedig â chynllunio iechyd cenfaint moch ar Fai 27ain am 6.30yh.  Beth am ymweld â gwefan Menter Moch Cymru i gofrestru eich diddordeb yn y gwebinar hwn.

Dywedodd Dr Alex Thomsett: “Gall ffermwyr moch wella iechyd, lles a chynhyrchedd eu moch trwy gynllunio iechyd.

“Gall cynllunio iechyd y genfaint anogi ddatblygiad rhaglen atal afiechyd ac amlinellu mesurau rheoli clefydau sydd yn addas ar gyfer eich fferm.”

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae’r fenter newydd hon yn adeiladu ar yr adnoddau gwybodaeth, cefnogi a hyfforddiant rhad ac am ddim y mae’r prosiect yn eu darparu i geidwaid moch yng Nghymru. Mae’r fenter yn gweithredu ymrwymiad y prosiect i helpu ffermwyr i sicrhau effeithiolrwydd ar y fferm ac i wthio arferion gorau’r dulliau rhagweithiol o gynllunio iechyd anifeiliaid.

Un ffermwr sydd wedi gweld gwahaniaeth sylweddol  I’w chenfaint o foch, ac I sefyllfa ariannol y fferm  ers iddi gychwyn ar y Cynllun Iechyd Cenfaint yw Gwenno Pugh  o Fferm Penmynydd ar Ynys Mon.

Ar hyn o bryd mae 30 o hychod ar y fferm a dros y blynyddoedd diwethaf mae Gwenno wedi bod yn gweithio I sicrhau bod y fenter moch yn cynnwys mwy o ffocws ar fusnes.  Mae hi’n pesgi tua 550 o foch bob blwyddyn ac yn y pen draw mae hi’n gobeithio cael hychod Cymreig yn unig ar y fferm

Dywedodd Gwenno:” Heb os byddwn yn annog pobl i fanteisio ar y Cynllun Iechyd y Genfaint trwy gyfrwng Menter Moch Cymru.  Trwy brofi gwaed a brechu’r moch, rydw i’n cael llai o broblemau gyda fy nghenfaint bellach.”

Meddai Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru “Dros y blynyddoedd mae’r fenter hon i godi ymwybyddiaeth am afiechydon sydd yn bodoli ar ffermydd moch yma yng Nghymru wedi dod yn bwysig iawn. Mae Cynllunio Iechyd Moch gan gynnwys bioddiogelwch da yn bwysig i atal cyflwyniad a lledaeniad afiechydon o fewn ffermydd unigol a’r genfaint genedlaethol.”

Yn ôl Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Mae cynllunio iechyd y genfaint, dull rhagweithiol a chydlynol o ymdrin ag iechyd anifeiliaid, ynghyd â gwaredu afiechydon, yn gallu cael effaith sylweddol ar effeithiolrwydd ac elw net menter moch.”

“Mae cynnig hwb ariannol ychwanegol yn ffordd unwaith eto i gynorthwyo’r ffermwyr sydd heb dderbyn cyllid i gychwyn gweithio gyda milfeddygon i roi cynlluniau iechyd ar waith ac i fonitro eu heffeithiolrwydd dros y blynyddoedd nesaf. Mae hwn unwaith eto yn gyfle gwych i geidwaid moch yng Nghymru i asesu iechyd eu cenfeintiau a, gyda chymorth eu milfeddygon, sefydlu cynllun iechyd ymarferol sydd wedi’i deilwra i wella cynhyrchiad a phroffidioldeb”

Yn ogystal â hynny, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Menter Moch Cymru mewn partneriaeth â Chanolfan Milfeddygaeth Cymru, Gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid ac Iechyd Da, wedi bod yn darparu hyfforddiant CPD sydd wedi’i deilwra’n benodol i Filfeddygon Cymru. Mae’r hyfforddiant hwn yn sicrhau bod y milfeddygon yn hyderus a gwybodus ynglŷn â sut i weithredu cynllun iechyd cenfaint ar gyfer menter moch.

Prif nod cynllun iechyd cenfaint yw hybu lles yr anifeiliaid drwy reoli unrhyw broblemau iechyd a ganfyddir drwy eu hatal. Mae gofalu’n well am iechyd yr anifail yn arwain at well proffidioldeb a pherfformiad gan y genfaint ynghyd â busnes sy’n fwy cynaliadwy.

Am fwy o wybodaeth beth am ymweld â’r wefan www.mentermochcymru.co.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.