7.8 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Newyddion Lle Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn lansio cynllun...

Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn lansio cynllun chwaraeon ymyrraeth gynnar newydd.

0
451
alun
alun

Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd gyhoeddi lansiad eu prosiect newydd ar y cyd, ‘Camu i Chwaraeon.

Elusen yw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru, sy’n cynnig grantiau i sefydliadau a phrosiectau sy’n cynnig llwybr amgen i bobl ifanc yn lle cael eu denu i droseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau. Ei nod yw rhoi cyfle i’r bobl ifanc hynny sydd wedi cael rhywfaint o brofiad o’r system cyfiawnder troseddol adeiladu’r sylfeini i wneud penderfyniadau bywyd mwy cadarnhaol, meithrin cydberthnasau gwell, a gwella eu lles meddyliol a chorfforol.

Mae ‘Camu i Chwaraeon yn brosiect gyda’r nod o ddefnyddio gwerth chwaraeon ar gyfer newid cymdeithasol a gweithgarwch ymgysylltu â chymunedau cryf i sicrhau dulliau ymyrryd yn gynnar ar gyfer troseddau a gyflawnir gan bobl ifanc. Drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, y gobaith yw y bydd pobl ifanc yn cadw draw oddi wrth ymddygiad troseddol.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi sicrhau bod £20,000 are gael, ac mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyfrannu swm cyfatebol o arian.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, “Mae’r prosiect mor bwysig wrth sicrhau lle diogel i bobl ifanc Caerdydd ddatblygu a thyfu. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi cyfle iddynt ddod o hyd i lwybr sy’n eu tywys oddi ar lwybr o droseddu posibl, gan eu galluogi i fyw bywyd iach, diogel a llwyddiannus.

“Rwy’n gobeithio nad y prosiect hwn fydd yr unig enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni mewn partneriaeth, ond y bydd yn gweithredu fel catalydd ledled ardal De Cymru, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd i ddatblygu a chynnig cyfleoedd arloesol, hirdymor i’n pobl ifanc.”

Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth i swyddog Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Hwn fydd y grant mwyaf a roddwyd erioed gan yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid, ac mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod mor hael â chyfrannu swm cyfatebol o arian.

Ychwanegodd Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison, “Mae Met Caerdydd yn rhoi pwyslais mawr ar newid addysgol a chymdeithasol ac rydym yn falch iawn o weithio ar y cyd ar brosiect fydd yn gwella iechyd corfforol a meddyliol y rhai yn y system cyfiawnder ieuenctid yn y brifddinas.

 “Mae hanes heb ei ail gennym o feithrin dawn chwaraeon ar draws ein campysau a’n cymunedau lleol ac rydym yn deall yn iawn fod gan chwaraeon y grym i hyrwyddo cyfleoedd fydd yn arwain at fagu hyder, cymhwysedd a chysylltedd.”

Bydd y prosiect wedi’i leoli yng Nghaerdydd gyda nifer o glybiau yn cael budd o’r adnoddau a’r profiad:

Clwb Rygbi Trelái a Chaerau a Chlwb Pêl-droed Trelái a Chaerau

Clwb Tennis Bwrdd Dinas Caerdydd

GLL Leisure

Hangar Human Performance Centre

Clwb Bocsio Llanrumney Phoenix

Tiger Bay ABC

Bydd partneriaid yn Chwaraeon Caerdydd, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd hefyd yn cyfrannu adnoddau, a byddant yn cydweithio i rymuso pobl ifanc i fagu hyder a chymhelliant, a gwireddu eu potensial ar gyfer dyfodol mwy cadarnhaol.

Bydd y prosiect yn fyw o heddiw (dydd Llun 17 Mai) ymlaen, a byddwn yn dechrau derbyn pobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio i’r rhaglen.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.