11.8 C
Llanelli
Tuesday, March 17, 2026

Her 24 awr Yr Wyddfa

0
713
Snowdon Challenge
Snowdon Challenge

Mid & West Wales Fire & Rescue

Am 11 o’r gloch ar 12 Mehefin, bydd y Rheolwr Gorsaf Dave Latham, ynghyd â thîm cymorth bach, yn ymgymryd â’r her arwrol o ddringo’r Wyddfa, nid unwaith, ond cymaint o weithiau ag y gallant mewn 24 awr!

Gan gadw at y canllawiau cyfredol o ran COVID-19, bydd aelodau eraill o’r Gwasanaeth yn ymuno â nhw hefyd i’w cefnogi trwy gydol y digwyddiad, yn ogystal ag i gyflawni eu heriau unigol eu hunain.

Bydd y Rheolwr Gorsaf Latham a’r tîm yn ymgymryd â’r her arwrol hon i gefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân, sefydliad sy’n cynnig cymorth arbenigol gydol oes i aelodau o gymuned gwasanaethau tân y DU, sy’n cynnwys personél cyfredol a phersonél wedi ymddeol, a’u teuluoedd.

Dywedodd y Rheolwr Gorsaf Dave Latham, “Yn dilyn yr amseroedd anodd yr ydym i gyd wedi bod trwyddynt, mae ar elusen y Diffoddwyr Tân angen ein cymorth ‘nawr fwy nag erioed. Mae’r pandemig wedi golygu bod digwyddiadau elusennol a chodi arian wedi cael eu canslo, sydd wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y rhoddion i’r elusen, a dyma, felly, un o’r nifer o resymau dros y digwyddiad codi arian hwn.

Parhaodd trwy ddweud, “Bydd hon yn her aruthrol i bawb dan sylw, ond rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld sawl gwaith y gallwn ddringo’r mynydd hwn yn yr amser a fydd gennym”.

Os hoffech gyfrannu at y digwyddiad codi arian hwn, ewch i’r dudalen Just Giving YMA – derbynnir pob rhodd yn ddiolchgar iawn, ni waeth pa mor fach.

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.