6.5 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Newyddion Lle Swyddogion Cymru yn edrych ymlaen at dwrnamaint heb drafferth

Swyddogion Cymru yn edrych ymlaen at dwrnamaint heb drafferth

0
575
c21 0092 coronavirus euros football social media the wait is nearly over english
c21 0092 coronavirus euros football social media the wait is nearly over english

Gyda Phencampwriaeth Ewrop ar fin dechrau, mae pawb yn edrych ymlaen yn arw at y pêl-droed.

Bydd y twrnamaint hwn yn wahanol iawn i unrhyw dwrnamaint a welwyd o’r blaen o ganlyniad i bandemig COVID-19, sy’n golygu bod cefnogwyr Cymru yn cael eu cynghori i aros gartref.

I’r bobl a benderfynodd deithio, mae swyddogion o Gymru wedi mynd i’r gwledydd lle y cynhelir y gemau i gydgysylltu â heddluoedd yno.

Yn ystod pencampwriaethau Ewrop yn y gorffennol, bu perfformiad tîm Cymru yn ysbrydoliaeth i’r cyhoedd. Eleni, mae’r heddlu yn atgoffa pobl sydd am wylio’r gemau mewn tafarndai a chlybiau i yfed yn gyfrifol a chadw’n ddiogel.

Y neges i gefnogwyr Cymru gartref a thramor yw: Un Tîm, Un Nod, Cadwch yn Ddiogel.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason James, sy’n arwain y criw o heddweision o heddluoedd De Cymru, Gogledd Cymru a Gwent: “Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi ennill enw da iawn wrth deithio dramor, ac rydym yn disgwyl y byddant yn parhau i ymddwyn yn y ffordd ragorol hon yn ystod pencampwriaeth Ewrop yr haf hwn.

“Mae’r cefnogwyr wedi cael eu cynghori i aros gartref, felly bydd llai o bobl o lawer yn teithio eleni o gymharu â’r twrnamaint a gynhaliwyd yn Ffrainc yn 2016. Fodd bynnag, bydd ein swyddogion yno i ymgysylltu â heddluoedd lleol a siarad â chefnogwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac yn gallu mwynhau’r twrnamaint.”

Cynhelir dwy gêm gyntaf Cymru yn Baku, Azerbaijan, cyn i’r tîm symud i Rufain yn yr Eidal. Os aiff Cymru drwy’r cam grwpiau, cynhelir gemau’r cam nesaf mewn dinasoedd eraill ledled Ewrop. 

Mae unigolion sydd wedi achosi helynt mewn gemau pêl-droed yn y gorffennol ac sydd bellach yn destun Gorchmynion Gwahardd Pêl-droed wedi ildio eu pasbortau, ac nid oes modd iddynt deithio dramor.

I’r bobl hynny a fydd yn cefnogi Cymru gartref, bydd cynllun plismona ar waith i wneud yn siŵr bod cefnogwyr yn ddiogel mewn trefi a dinasoedd ledled De Cymru.

Dywedodd yr Arolygydd Jeff Burton: “Bydd pobl yn awyddus i fynd allan a mwynhau’r twrnamaint a gwylio’r gemau mewn tafarndai a chlybiau, a’n nod yw eu cadw’n ddiogel.

“Bydd mwy o swyddogion yr heddlu ar batrôl gennym yng nghanol trefi a dinasoedd, a gofynnwn i gefnogwyr yfed yn gyfrifol a mwynhau’r twrnamaint. Mae cyfyngiadau’r Coronafeirws yn parhau yn eu lle mewn safleoedd trwyddedig, felly dylech barchu’r mesurau sydd ar waith ynddynt i’ch cadw’n ddiogel, a dangos parch ac amynedd tuag at y staff yn ogystal â’r bobl hynny a allai fod heb gael cyfle i fynd allan a chymdeithasu ers cryn amser o ganlyniad i’r pandemig.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.