23.9 C
Llanelli
Thursday, May 28, 2026
Home Newyddion Lle Elusen yn chwilio am bartneriaid i helpu i ddiogelu mannau gwyllt Sir...

Elusen yn chwilio am bartneriaid i helpu i ddiogelu mannau gwyllt Sir Benfro

0
381
01. Main Thumbnail image 1800X1200 1800x1080 1
01. Main Thumbnail image 1800X1200 1800x1080 1

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi lansio cynllun rhoi newydd sy’n annog busnesau i greu partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth i helpu i ddiogelu’r Parc Cenedlaethol, nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Partneriaid Arfordir Penfro yn rhaglen aelodaeth busnes flynyddol, sy’n ceisio meithrin partneriaeth sydd o fudd i’r naill ochr a’r llall rhwng yr Ymddiriedolaeth a busnesau o bob lliw a llun.

Mae pedwar pecyn gwahanol ar gael – Efydd, Arian, Aur ac, ar gyfer y rheini sy’n dymuno cyfrannu mwy at ddyfodol y dirwedd unigryw hon, Platinwm.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Nichola Couceiro: “Mae Partneriaid Arfordir Penfro yn gyfle gwych i fusnesau o bob math sicrhau manteision i helpu i warchod ein Parc Cenedlaethol trawiadol a chefnogi’r bobl a’r cymunedau sy’n ei alw’n gartref.

“Mae’r pecynnau Platinwm wedi’u teilwra i ofynion unigol pob busnes, ac anogir ymgeiswyr i gysylltu â’r tîm i drafod ffyrdd posibl o gydweithio.”

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i hyrwyddo’r gwaith o warchod, diogelu a gwella’r Parc Cenedlaethol a’r ardaloedd cyfagos, hyrwyddo addysg am bwysigrwydd ei fywyd gwyllt a’i dirweddau, a hyrwyddo’r cyfleoedd hamdden, iechyd meddwl a chorfforol y mae’n eu cynnig. Mae wedi’i gofrestru gyda Chomisiwn Elusennau’r DU, a rhif cofrestru’r elusen yw 1179281

Os hoffech chi fod yn Bartner Arfordir Penfro neu os hoffech drafod y cynllun ymhellach, cysylltwch â’r tîm drwy ffonio 01646 624808 neu anfon neges i support@pembrokeshirecoasttrust.wales.

Ein Parc Cenedlaethol ni yw hwn – beth am weithio gyda’n gilydd i’w ddiogelu


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here