17.5 C
Llanelli
Sunday, August 30, 2026
Home Events FelMerch: Urdd i arbed cenhedlaeth o ferched rhag rhoi’r gorau i chwaraeon

FelMerch: Urdd i arbed cenhedlaeth o ferched rhag rhoi’r gorau i chwaraeon

0
594
FelMerch Awyr Agored Instagram
FelMerch Awyr Agored Instagram

Gydag ymchwil diweddar yn dangos fod perygl gwirioneddol i genhedlaeth o ferched roi’r gorau i chwaraeon, mae Urdd Gobaith Cymru, gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Cymru, yn lansio’r prosiect cenedlaethol #FelMerch er mwyn taclo’r broblem.

O lansio #FelMerch heddiw (dydd Iau, 17 Mehefin 2021), nod yr Urdd yw sicrhau bod pob merch a menyw ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon hamdden, beth bynnag fo’u gallu neu brofiad, wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio ac i’r dyfodol.

Yn ôl ymchwil newydd gan Always nid yw mwy na hanner (55%) o ferched yn eu harddegau yn cadw’n heini, gyda thri chwarter ohonynt (75%) yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth i’w cadw mewn chwaraeon. Mae ymchwil gan Chwaraeon Cymru hefyd yn dangos fod y pandemig wedi arwain at fwy o fenywod yn adrodd eu bod yn gwneud llai o chwaraeon, yn ogystal â theimlo’n euog am beidio â chadw’n heini, ac yn poeni am adael y tŷ.

Prif nod #FelMerch yw ysbrydoli, cefnogi ac ymbweru merched 14-25 oed i gadw’n actif a chwalu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon drwy gyflawni’r canlynol:

  • Cynnal gweithgareddau wythnosol cynhwysol, wyneb yn wyneb neu’n rhithiol.
  • Sefydlu fforymau rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Penodi Llysgenhadon er mwyn ysbrydoli eraill, gan gynnwys Llysgenhadon cenedlaethol fel maswr tîm merched Cymru a Bryste, Elinor Snowsill.
  • Darparu rhaglenni arweinyddiaeth.
  • Sefydlu hybiau cymunedol yn ystod gwyliau.
  • Trefnu cynhadledd genedlaethol er mwyn rhannu llwyddiant a syniadau.

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, Dawn Bowden AS yn croesawu’r cyhoeddiad:

 “Rwy’n cydnabod bod angen gwneud mwy i gau’r bylchau sy’n bodoli rhwng dynion a merched pan mae hi’n dod i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, a chanolbwyntio ar ddarparu mwy o gyfleoedd o ansawdd i ferched a menywod ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon. Rwy’n falch iawn o gefnogi prosiect Urdd Gobaith Cymru “#FelMerch”; bydd ganddo ran bwysig i’w chwarae wrth annog cyfranogiad merched mewn gweithgareddau chwaraeon, waeth beth fo’u gallu, ac wrth greu amgylcheddau diogel i wneud hynny.”

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae cadw’n heini a chymryd rhan mewn chwaraeon yn gwella iechyd meddwl yn ogystal â chorfforol, yn codi hyder a hunan-barch, ac yn medru arwain at gyrhaeddiad addysgol hefyd. Felly rydym yn benderfynol o sicrhau fod digon o gyfleoedd gan ferched Cymru i ymwneud â chwaraeon, a hynny o fewn gofod diogel, gan gynnwys darparu sesiynau ymarfer ar-lein sy’n diwallu eu hanghenion.”

Ychwanega Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Mae ehangu apêl gwneud ymarfer corff a chwaraeon i ferched a menywod, yn ogystal â deall y rhwystrau sy’n atal cyfranogiad, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Byddwn yn cefnogi ymdrechion yr Urdd i adeiladu ar y cynnydd da a oedd yn cael ei wneud cyn pandemig ac i feddwl yn greadigol wrth ddatblygu cyfleoedd o ansawdd uchel i ferched a menywod eu mwynhau.

“Yn naturiol ddigon bydd rhai unigolion yn bryderus wrth ddychwelyd i wneud gweithgareddau ochr yn ochr ag eraill, felly hoffwn roi sicrwydd i unrhyw un sy’n teimlo’n bryderus bod llawer iawn o waith wedi’i wneud i sicrhau fod gweithgareddau yn ddiogel a chroesawgar. Mae mwy na 1,000 o glybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru wedi elwa o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i’w galluogi i wneud addasiadau a chyflwyno ystod o fesurau i gadw unigolion yn ddiogel.”

 Cynhelir lansiad #FelMerch yng nghwmni Dawn Bowden AS, Siân Lewis, Sarah Powell ac Elinor Snowsill ar ddydd Iau’r 17eg o Fehefin 2021 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru. I drefnu cyfweliadau cyslltwch a mali@urdd.org


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.