24.2 C
Llanelli
Friday, July 24, 2026
Home Sport Football S4C yn adnewyddu cytundeb tair blynedd ar gyfer pêl-droed domestig

S4C yn adnewyddu cytundeb tair blynedd ar gyfer pêl-droed domestig

0
24
 Cyfathrebu <Cyfathrebu_Communications@s4c.cymru>
Mae S4C wedi adnewyddu ei ymrwymiad i bêl-droed domestig am y tair blynedd nesaf, gyda Sgorio yn parhau i ddarparu darllediadau am ddim o’r Cymru Premier Novira, Cynghreiriau Adran Genero, Cwpan Cymru CBDC a Chwpan Cymru Bute Energy.
Am y 19eg tymor yn olynol, Sgorio fydd partner darlledu swyddogol pêl-droed domestig yng Nghymru, gan gynnig dros 40 o gemau byw bob tymor o’r prif gystadlaethau cynghrair a chwpan, yn ogystal ag uchafbwyntiau, goliau, dadansoddiad a chynnwys ecsgliwsif ar draws llwyfannau darlledu, digidol a chyfryngau cymdeithasol. Mae’r cytundeb yn sicrhau y bydd cefnogwyr yn parhau i fwynhau darllediadau byw o’r Cymru Premier Novira a Chynghreiriau Adran Genero, yn ogystal â gemau’r dynion a’r menywod o gystadlaethau Cwpan Cymru, gan gynnwys y ddwy gêm derfynol. Bydd yr holl ddarllediadau ar gael am ddim, gyda Sgorio yn parhau i fod yn bartner darlledu swyddogol pêl-droed domestig yng Nghymru. Bydd gemau dethol o’r Cymru Premier Novira yn cael eu dangos yn fyw ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio, gyda phedair o’r wyth gêm gyntaf a ddewiswyd yn cael eu chwarae ar nosweithiau Gwener. Dyddiau Sadwrn fydd y diwrnod rheolaidd arall ar gyfer gemau Sgorio. Mae’r tymor newydd yn cychwyn ar 31 Gorffennaf pan fydd Y Barri yn wynebu Cambrian yn y Cymru Premier Novira, yn fyw ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio.  Bydd y gemau ar gael gyda sylwebaeth Cymraeg a Saesneg. Yng Nghynghreiriau Adran, mae Sgorio wedi cryfhau ei ymrwymiad i bêl-droed menywod drwy ddangos deg gêm yn fyw bob tymor, gan gynnwys y gemau gorau ym Mhrif Adran Genero, Tlws Adran Genero a Chwpan Cymreig Bute Energy. Yn ogystal â chynnwys digidol cynhwysfawr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Sgorio a S4C Chwaraeon, gall ddilynwyr clybiau pêl-droed fwynhau tair blynedd arall o’r gêm yng Nghymru, i gyd yn rhad ac am ddim. Dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C: “Rydym yn falch iawn o barhau â’n partneriaeth hir sefydlog gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac o ymestyn ein darllediadau o bêl-droed domestig yng Nghymru i’w trydydd degawd, ar adeg gyffrous i’r cefnogwyr wrth i Uwch Gynghrair Cymru ehangu i gynnwys 16 clwb.“Mae S4C wedi bod ar flaen y gad o ran darlledu pêl-droed domestig yng Nghymru ac yn parhau i fod y prif ddarlledwr sy’n dangos pêl-droed domestig Cymru ar deledu am ddim, gan ddod â’r holl gyffro byw, uchafbwyntiau a straeon o glybiau a chymunedau ledled Cymru i gefnogwyr.” Dywedodd Jack Sharp, Pennaeth Cynghreiriau Domestig Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Rydym wrth ein bodd i barhau â’n partneriaeth gydag S4C, a fydd yn gweld cynnydd yn y nifer o gemau pêl-droed domestig fydd yn cael eu darlledu am ddim i gefnogwyr ar hyd a lled y DU.  Mae S4C wedi bod yn gefnogwr brwd o bêl-droed Cymru ers amser, ac roedd hi’n bwysig sicrhau bod ein perthynas yn parhau wrth i ni ddechrau ar antur newydd a chyffrous yn Cymru Premier Novira.”Mae ehangu ein darpariaeth darlledu am ddim ochr yn ochr â lansiad Cymru Football TV wedi bod yn un o brif amcanion ein strategaeth ddarlledu.  Trwy weithio gydag S4C, byddwn yn ehangu gwelededd, hygyrchedd a chyrhaeddiad y gêm ddomestig, gan sicrhau bod mwy o gefnogwyr nag erioed o’r blaen yn gallu ymgysylltu â phêl-droed Cymru, gan helpu ni i barhau i godi proffil ein cystadlaethau.”
Gwybodaeth Gyswllt
S4C Cyfathrebu
Cyfathrebu_Communications@s4c.cymru
Nodiadau i olygyddion
Pob gêm ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio.
25ba80e3d00e45589b88d2f202b881f2.avif

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.