16.5 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Farming Cyswllt Ffermio’n ailddechrau ei raglen o ddigwyddiadau ar safleoed

Cyswllt Ffermio’n ailddechrau ei raglen o ddigwyddiadau ar safleoed

0
540
Adam York and Gerald Miles scaled
Adam York and Gerald Miles scaled

Mae digwyddiadau byw Cyswllt Ffermio wedi ailddechrau a chynhaliwyd y cyntaf o’r rhain mewn gardd fasnachol yn Aberteifi ym mis Gorffennaf.

Aeth bron i 18 mis heibio ers i’r pandemig orfodi Cyswllt Ffermio i fynd â’i ddigwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth ar-lein.

Adam York and Gerald Miles

Ond, gyda chanllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru yn awr yn caniatáu digwyddiadau tu allan trwy gadw pellter cymdeithasol, mae Cyswllt Ffermio yn ailgychwyn ei ddigwyddiadau ar safleoedd unwaith eto.

Cychwynnodd y rhain gyda digwyddiad agored ar safle Gardd Fasnachol Glebelands, Aberteifi, i drafod dulliau rheoli chwyn.

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn barod ar draws Cymru ar gyfer yr wythnosau nesaf ac mae’r calendr digwyddiadau yn cael ei ddiweddaru’n gyson wrth i ragor gael eu hychwanegu.

Rhoddodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy’n darparu rhaglen Cyswllt Ffermio, anogaeth i ffermwyr a thyfwyr ymweld â gwefan Cyswllt Ffermio i wirio pa ddigwyddiadau sy’n dod ar llyw.cymru/cyswlltffermiodigwyddiadau.

Delana Davies with Adam and Lesley York

Roedd y ffurf gweminar a’r digwyddiadau byw o ffermydd arddangos wedi bod yn boblogaidd iawn yn ystod y cyfnodau clo Covid-19 a thra bu’r cyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol yn eu lle, dywedodd.

Felly bydd y rhaglen wrth symud ymlaen yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau ar y safle ac ar-lein.

“Gwyddom bod pobl wedi gweld colli’r digwyddiadau ar safleoedd a’r cyfle i ddysgu o’n prosiectau a’n gwaith treialu mewn lleoliad byw, felly rydym yn falch iawn ein bod ni mewn sefyllfa erbyn hyn i gynnig y cyfle hwnnw eto,” dywedodd Mrs Williams.

Cynhelir yr holl ddigwyddiadau ar safleoedd yn unol â’r canllawiau Covid-19 presennol, ac mae archebu lle yn orfodol, ychwanegodd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.