14.8 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Newyddion Lle Cynllun newydd i roi mwy o fwyd a diod o Gymru ar...

Cynllun newydd i roi mwy o fwyd a diod o Gymru ar silffoedd siopau

0
544
RetailPlanImage 2
RetailPlanImage 2

Mae Llywodraeth Cymru’n lansio cynllun newydd heddiw fydd yn helpu busnesau bwyd a diod o Gymru i gael eu cynnyrch ar silffoedd y siopau mwyaf.
Mae Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Cymru wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant i weld mwy o dwf yn nhrosiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru o’i gymharu â’r sector yn y DU gyfan.

Mae wyth amcan i’r cynllun, gan gynnwys creu llif o fusnesau bwyd a diod entrepreneuraidd newydd a chyflymu twf busnesau sydd â throsiant o fwy na £10m yn y sector manwerthu.

Y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths fydd yn lansio’r Cynllun Manwerthu, yn ystod ei hymweliad â Samosaco ym Mhont-y-clun bore yma.

Mae Samosaco wrthi’n gwerthu i siopau Morrisons yng Nghymru a Costco ar draws y DU. Gwnaeth y cwmni ail-lansio eu brand a’u pecynnau’n ddiweddar yn ogystal â’u cynnyrch ar gyfer siopau penodol.

Bydd y cynllun yn helpu cwmnïau o Gymru i werthu eu cynnyrch ledled y DU a meithrin perthynas waith fwy clos ar draws y cadwyni cyflenwi ac â manwerthwyr.

Bydd yn allweddol hefyd wrth annog y genhedlaeth nesaf o gwmnïau i fanteisio ar lwybrau newydd i’r farchnad a’u helpu i ymateb i ofynion newydd eu cwsmeriaid.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Mae gennym gynhyrchwyr bwyd a diod ffantastig yma yng Nghymru ac rwy’n benderfynol o weld mwy o bobl yn mwynhau eu cynnyrch, nid yma yng Nghymru’n unig ond ledled y DU.

“Bydd y cynllun manwerthu newydd yn allweddol i helpu’r diwydiant i gryfhau a dod yn fwy cydnerth a bydd yn gosod y sylfeini ar gyfer helpu’r cwmnïau gyda chamau nesaf eu twf a’u datblygiad.

“Hoffwn ddiolch i’r Grŵp Manwerthu Arbenigol am ein helpu i greu’r cynllun hwn. Cafodd y grŵp ei sefydlu’n unswydd i asesu sefyllfa Cymru o fewn sector manwerthu’r DU ac i ymateb i ofynion cyfnewidiol y marchnadoedd bwyd

“Mae gennym gyfle go iawn, trwy’r cynllun newydd hwn, i helpu busnesau bwyd a diod o Gymru i gyrraedd marchnadoedd newydd a gall hynny olygu newid byd iddynt.”

Dywedodd cyd-sylfaenydd Samosaco, Tee Sandhu: “Mae’n bleser cael croesawu’r Gweinidog yma heddiw i lansio cynllun mor bwysig ar gyfer Bwyd a Diod Cymru. Rydyn ni newydd adnewyddu’n brand a datblygu nifer o brydau parod a byrbrydau Fegan a Llysieuol newydd a chael cefnogaeth ardderchog gan Raglen Datblygu Masnach y Llywodraeth a’r Clwstwr Bwyd Da. Mae ein cynnyrch gan gynnwys ein henwog ‘Onion Bhaji Scotch Egg’ eisoes yn cael eu dosbarthu ledled Cymru a byddan nhw ar gael cyn hir yn y rhan fwyaf o Brydain trwy fanwerthwr ar-lein mawr. Rydyn ni’n disgwyl ymlaen at feithrin cysylltiadau tynnach â manwerthwyr amlwg ac ehangu’n safle yn y farchnad.”

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru (FDWIB), Andy Richardson: “Mae gan Fwyd a Diod Cymru gyfle aruthrol i ddatblygu’u gwerthiant gyda manwerthwyr ledled Cymru a’r DU. Dwi i wir yn argyhoeddedig bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi ansawdd, cynaliadwyedd a tharddiad Bwyd a Diod Cymru ac o gyfuno hynny â brandio da wrth y man gwerthu, dylai’r sector dyfu’n dda yn y blynyddoedd i ddod”.

I ddarllen y Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod, ewch i: Crynodeb Cynllun Manwerthu_0.pdf (gov.wales)


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.