14.8 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Newyddion Lle Gronfa Adferiad Diwylliannol – yn helpu i gynnal y sector treftadaeth

Gronfa Adferiad Diwylliannol – yn helpu i gynnal y sector treftadaeth

0
443
Llangollen
Llangollen

Yn ystod ymweliadau â Gogledd Cymru yr wythnos hon, cyfarfu Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, â’r sawl sydd wedi derbyn cyllid o Gronfa Adferiad Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru – i weld sut mae’r cyllid wedi helpu i gynnal sefydliadau a diogelu swyddi yn ystod cyfnod heriol i’r sector.

Mae Canolfan y Celfyddydau Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llandedrog, Pen Llŷn bellach yn croesawu ymwelwyr eto.  Yn ystod y pandemig dyfarnwyd £291,000 i Blas Glyn-y-Weddw o Gronfa Adferiad Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru – gan arbed 20 o swyddi a diogelu’r elusen rhag cau.

Llangollen

Dywedodd Gwyn Jones, Cyfarwyddwr: ” Ym Mhlas Glyn y Weddw rydym wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ers dechrau’r pandemig ac wedi teimlo ein bod wedi ein diogelu drwy’r argyfwng digynsail hwn. Heb y Gronfa Adfer Diwylliannol byddai Plas Glyn y Weddw wedi’i golli ynghyd â dros 20 o swyddi a 70 o gyfleoedd gwirfoddoli. Byddwn am byth yn ddyledus i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford a’i dîm am y gefnogaeth a roddir a byddwn yn gweithio’n galed i helpu i adfywio economi Cymru wrth symud ymlaen.”

O ran y dyfodol, mae Oriel Plas Glyn y Weddw yn edrych ymlaen at barhau i ailddatblygu’r caffi a’r gegin a ysbrydolir gan artistiaid sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yn atyniad ychwanegol ar gyfer y 140,000 o bobl sy’n ymweld â’r Oriel bob blwyddyn.

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog â Rheilffordd Llangollen yn ogystal.  Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen Cyf sy’n rheoli’r Rheilffordd Dreftadaeth ac mae’n gweithredu trac 10 milltir drwy ganol Dyffryn Dyfrdwy rhwng Llangollen a phentref Carrog. Yn ogystal â gwarchod fflyd o gerbydau a’u cynnal a’u cadw’n barhaus, mae’n gwrarchod ac yn rheoli pedair gorsaf dreftadaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dau gylch o grantiau o dan y Gronfa Adferiad Ddiwylliannol i Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, sy’n dod i gyfanswm o fwy na £290,000 i helpu gyda chynnal gwasanaethau ac ailgychwyn gweithrediadau.

plas Glyn y weddw

Dywedodd y Dirprwy Gadeirydd Phil Coles, “Roeddwn yn falch iawn bod y gweinidog wedi ymweld â Rheilffordd Llangollen ac wedi cyfarfod ag aelodau’r Bwrdd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd. Roeddem yn gallu mynegi ein diolch am y grant a fydd yn caniatáu i LRT adfer ac ailagor gwasanaethau trên yn Nyffryn Dyfrdwy yn ddiweddarach yn yr haf pan fydd trenau stêm yn gallu rhedeg eto i Carrog.”

Ar draws dau gam y Gronfa Adferiad Diwylliannol mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £93m o gyllid sydd wedi cefnogi busnesau, sefydliadau ac unigolion yn y sectorau allweddol hyn.

Roedd cam cyntaf y Gronfa Adfer Diwylliannol yn cefnogi 646 o fusnesau a 3,500 o unigolion gyda chyllid o £63m.  Dyrannodd Llywodraeth Cymru £30m ar gyfer ail gam y cyllid i barhau i gefnogi’r sector.  Rhoddwyd yr ail gam hwn ar waith i gefnogi’r sector tan ddiwedd mis Medi.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden: “Mae’r pandemig wedi parhau i effeithio’n sylweddol ar y sector diwylliannol – ac mae’n dda cael siarad â’r atyniadau treftadaeth hyn i ddysgu mwy am yr heriau maen nhw wedi’u hwynebu a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn parhau i gysylltu â’r sector wrth i ni lacio’r cyfyngiadau ac edrych tuag at y lefel rhybudd sero newydd a dyfodol gyda llai o reolau cyfreithiol. Byddwn yn parhau i adolygu’r angen am unrhyw gymorth ychwanegol i sicrhau cynaliadwyedd y sector yn y dyfodol.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.