Yn ddiweddar cynhaliodd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei digwyddiad cyntaf o’r flwyddyn yn yr Oriel yng Trefdraeth, Sir Benfro.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i lif cyson o ymwelwyr ddysgu mwy am waith yr Ymddiriedolaeth, ac roedd yn cyd-daro ag arddangosfa yn yr oriel gan yr artist tirluniau enwog o Sir Benfro, Gillian McDonald.
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth i gefnogi a hybu cadwraeth, cymunedau a diwylliant ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ers lansio’r elusen yn haf 2019, mae dros 13 o brosiectau wedi cael eu cefnogi. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau addysg, creu mwy o ddolydd, gwaith i fynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol a chynllun i gefnogi pryfed peillio ar hyd Llwybr yr Arfordir.
Os hoffech chi ddysgu mwy am waith yr elusen neu gael eich gwahodd i ddigwyddiadau yn y dyfodol, cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr chwarterol RHAD AC AM DDIM ar www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















