14.8 C
Llanelli
Monday, June 29, 2026
Home Environmental News Prosiectau amgylcheddol yn elwa ar drethi sy’n cael eu codi a’u gwario...

Prosiectau amgylcheddol yn elwa ar drethi sy’n cael eu codi a’u gwario yng Nghymru

0
387
BishopsPark1 scaled
BishopsPark1 scaled

Welsh Government

Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi ymweld â gardd hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin i weld sut mae prosiect wedi defnyddio cyllid o’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i ddatblygu’r safle a gwella bioamrywiaeth.

Mae Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae’n cefnogi prosiectau amgylcheddol a chymunedol sy’n gweithio i leihau effeithiau negyddol gwaredu gwastraff, a hynny mewn ardaloedd sydd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff.

Gyda chymorth ei thîm o wirfoddolwyr, mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn wedi defnyddio grant Llywodraeth Cymru i ddatblygu Parc a Gerddi’r Esgob yn Abergwili drwy droi lawntiau’n ddolydd a chael gwared ar rywogaethau anfrodorol.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:

“Mae wedi bod yn bleser gweld prosiectau fel Parc a Gerddi’r Esgob yn elwa’n uniongyrchol ar drethi sydd wedi cael eu codi a’u gwario yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi bod yn galw am ddatganoli mwy o bwerau trethu i Gymru, ac rydyn ni’n awyddus i weld y broses ei hun yn cael ei diwygio. Byddai datganoli mwy o bwerau trethu yn caniatáu inni ddatblygu system fwy strategol ar gyfer trethi canolog a lleol. Byddai hynny’n sicrhau ein bod yn gallu ymateb i anghenion a blaenoriaethau pobl a busnesau Cymru mewn modd mwy effeithiol.

“Mae’r cyllid sy’n cael ei godi o gasglu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi gwneud byd o wahaniaeth i’r prosiectau pwysig hyn sy’n dod â budd i’r gymuned ac yn gwella bioamrywiaeth, gan ein helpu i gyflawni ein cynllun i sicrhau bod Cymru yn wlad wyrddach, decach, a mwy ffyniannus.”

28.07.21 – Ministerial Visit to Bishop’s Palace, Abergwilli

Ychwanegodd Louise Austin, Rheolwr Parc yr Esgob:

“Roedd yn bleser mawr croesawu’r Gweinidog i’r Parc a dangos iddi’r hyn sy’n cael ei gyflawni o ganlyniad i gael y grant.

“Aeth Piers Lunt, ein Prif Arddwr â hi ar daith i ddangos iddi sut mae e’n gweithio, gyda chymorth ein tîm o wirfoddolwyr, i adfer y parc hanesyddol, gan sicrhau bod bioamrywiaeth ar ei gorau a bod natur yn cael ei warchod o ganlyniad i’r hyn sy’n cael ei wneud.     

“Ar draws y lawntiau, roedd y Gweinidog yn gallu gweld canlyniadau dulliau mwy traddodiadol o reoli dolydd sy’n cynyddu nifer y blodau gwyllt, ac yn y coetir rydyn ni wedi clirio rhywogaethau goresgynnol fel prennau llawryf er mwyn ei gwneud yn haws i fwy o blanhigion brodorol dyfu yno, gan gynnwys clychau’r gog a blodau’r gwynt. Cafodd y Gweinidog gyfle hefyd i gwrdd â rhai o’n gwirfoddolwyr a oedd wrthi’n plannu rhywogaethau brodorol o goed.  

“Mae’r cyllid hwn wedi bod yn hanfodol i’n helpu i barhau â’n cynllun rheoli ecolegol uchelgeisiol ar gyfer y safle. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.”  

28.07.21 – Ministerial Visit to Bishop’s Palace, Abergwilli

Dywedodd Catherine Miller, Pennaeth Grantiau a’r Amgylchedd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Mae’r prosiect ym Mharc yr Esgob yn enghraifft wych o sut mae Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn helpu i dynnu cymunedau at ei gilydd i wella eu hamgylchedd lleol, drwy greu a chynnal mannau i bawb eu mwynhau.

“Mae’r grant wedi golygu bod gwaith cadwraeth hanfodol wedi cael ei wneud ochr yn ochr â gwelliannau eraill i’r strwythurau yn y parc. Mae’n dda gweld y cyllid yn gwneud cymaint o wahaniaeth mewn modd a fydd yn cael ei fwynhau am lawer o flynyddoedd i ddod.”

Gallai prosiectau sy’n gweithio i wella eu hamgylchedd lleol mewn ardaloedd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu safle trosglwyddo gwastraff fod yn gymwys i gael grant rhwng £5,000 a £50,000, gydag un prosiect yn cael hyd at £250,000 bob blwyddyn.

Mae proses ymgeisio bresennol Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi  yn cau ar 31 Awst 2021.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here