16.3 C
Llanelli
Wednesday, September 2, 2026
Home Newyddion Lle Tîm Cyfathrebu Awdurdod y Parc yn y ras am bum gwobr

Tîm Cyfathrebu Awdurdod y Parc yn y ras am bum gwobr

0
474
TenbyFootprints
TenbyFootprints

Mae Tîm Cyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer pum gwobr yng Ngwobrau PRide Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus Cymru.

Mae ymateb Awdurdod y Parc mewn argyfwng wrth ddelio ag effaith pandemig y Coronafeirws wedi cael ei gydnabod mewn tri chategori: Ymgyrch Sector Cyhoeddus, Ymgyrch Cyllideb Isel, ac Ymgyrch Ranbarthol y Flwyddyn.

Mae papur newydd blynyddol yr Awdurdod i ymwelwyr, Coast to Coast, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer categori y Cyhoeddiad Gorau, ar ôl ennill y wobr yn 2014.

Mae’r Tîm Cyfathrebu hefyd yn cystadlu am Wobr y Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus Mewnol Rhagorol. Llwyddodd yr Awdurdod ennill y wobr honno hefyd yn 2014.

Dywedodd Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Marie Edwards: “Mae cael eich rhoi ar y rhestr fer, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol blaenllaw ym maes cysylltiadau cyhoeddus ledled y wlad, yn brawf o’r gwaith caled mae’r tîm wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf a thu hwnt i ddatblygu a chyflawni’r Cynllun Adfer Cyfathrebu drwy Covid-19.

“Mae’r tîm wedi adeiladu ar lwyddiant ei ymgyrch yn 2020 eleni ac mae’n parhau i ymgysylltu â phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt i hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol fel cyrchfan ddiogel ond sensitif i ymwelwyr, gan annog parch gan bawb i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r hyn i’w ddisgwyl a’r hyn a ddisgwylir ganddynt.”

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones: “Mae’r Awdurdod yn falch iawn bod y Tîm Cyfathrebu wedi cyrraedd y rhestr fer unwaith eto, a hynny ar ôl i’w waith gael ei gydnabod yn ddiweddar yng Ngwobrau Rhagoriaeth CIPR y DU.

“Mae’r tîm wedi defnyddio amryw o ymgyrchoedd traddodiadol a chreadigol i sicrhau canlyniadau gwych a lledaenu’r negeseuon #Troedio’nYsgafn; hyd yn oed dan yr amodau heriol a ddaeth yn sgil y pandemig byd-eang.”

Bydd enillwyr Gwobrau PRide CIPR Cymru Wales yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni rithiol ar 5 Hydref. I weld y rhestr lawn, ewch i https://ciprawards.co.uk/pride/cymru-wales/shortlist-2/ .


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.