17.5 C
Llanelli
Friday, July 3, 2026
Home Farming Y cyntaf yn y DU – Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr...

Y cyntaf yn y DU – Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yn sicrhau diogelwch rhyngwladol

0
513
Gower Salt marshes image
Gower Salt marshes image

Welsh Government News

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, wedi llongyfarch Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr ar fod y cynnyrch newydd cyntaf i ennill Statws Dynodiad Daearyddol y DU, y wobr uchel ei bri, a fydd yn rhoi diogelwch rhyngwladol i’r cynnyrch Cymreig rhagorol.
Sefydlwyd cynllun Dynodiad Daearyddol y DU ar ddechrau 2021, ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

Mae’r cynllun yn sicrhau y gall rhai cynhyrchion bwyd a diod barhau i dderbyn diogelwch cyfreithiol rhag unrhyw ymdrechion i efelychu a chamddefnyddio.

Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yw’r cynnyrch newydd cyntaf i ennill statws Dynodiad Daearyddol y DU a’r cig yw ail aelod ar bymtheg teulu cynhyrchion Cymru, gan ymuno â chynnyrch gwych arall fel Halen Môr Môn, Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a Thatws Cynnar Sir Benfro. Mae pob aelod o’r teulu yn gwbl Gymreig ac mae ganddynt gysylltiadau unigryw â’r tirweddau a’r morweddau sy’n eu meithrin.

O heddiw ymlaen, dim ond Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr y gellir ei werthu gyda logo Dynodiad Daearyddol y DU, sy’n gwarantu bod ei gynnyrch yn dod o ŵyn a gafodd eu geni a’u magu ar arfordir Gogledd Gŵyr yng Nghymru.

Bydd y logo Dynodiad Daearyddol yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru ac yn rhoi’r ardystiad o ansawdd a natur unigryw Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr sef clod y mae’n ei haeddu ac y mae defnyddwyr yn chwilio amdano.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda’r cwmni o’r blaen drwy ei rhaglen Enwau Bwyd Gwarchodedig.

Mae Dan a Will Pritchard yn rhedeg fferm deuluol cig oen Morfa Heli y Gŵyr ar Benrhyn hardd y Gŵyr a dywedodd Dan wrth siarad am eu llwyddiant gwych:

“Rydym mor falch bod Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr wedi ennill statws uchel ei bri Dynodiad Daearyddol y DU.

“Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym yn ei gynhyrchu ac mae’n wych ei fod yn cael ei gydnabod a’i ddathlu.

“Bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu i ddiogelu enw da ein cynnyrch rhanbarthol, hyrwyddo arferion amaethyddol traddodiadol a gwaredu cynhyrchion nad ydynt yn rhai dilys. Mae’n ddiwrnod gwych i Gymru ac i gynnyrch o Gymru.”

Llongyfarchodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, Dan a Will Pritchard ar eu llwyddiant gwych, gan ddweud:

“Rydym am hyrwyddo cynhyrchion bwyd a diod o Gymru sy’n tystio I’w hanesion am arbenigedd, traddodiad a chynaliadwyedd, oll gydag ymdeimlad angerddol o’u gwreiddiau unigryw.

“Hoffwn longyfarch Dan a Will ar eu llwyddiant ar fod y cynnyrch cyntaf newydd i sicrhau statws arbennig Dynodiad Daearyddol y DU ar gyfer eu cig oen Morfa Heli a’u croesawu i deulu Dynodiadau Daearyddol Cymru.

“Hoffem weld Cymru’n parhau i arwain y ffordd o ran cydnabod cynnyrch eiconig ac rwy’n hyderus y bydd llwyddiant diweddaraf Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yn annog ceisiadau newydd eraill am statws Dynodiad Daearyddol y DU, o bob categori bwyd a diod yng Nghymru.”

Mae rhagor o wybodaeth am Gig Oen Morfa Heli y Gŵyr a gweddill aelodau teulu Dynodiadau Daearyddol Cymru ar gael yma: Cynlluniau Dynodiad Daearyddol Newydd y DU (GI y DU) | Business Wales – Food and drink (gov.wales)


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.