17.7 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Newyddion Lle Gweledigaeth newydd i helpu i gynyddu tyfu bwyd arloesol yng Nghymru

Gweledigaeth newydd i helpu i gynyddu tyfu bwyd arloesol yng Nghymru

0
353
CEAProspectus
CEAProspectus

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gweledigaeth newydd i cynhyrchu mwy o fwyd uwch-dechnoleg yng Nghymru sydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y newid yn yr hinsawdd.

Nod prosbectws newydd Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd Reoledig (CEA) yw gweld twf yn nifer y busnesau sy’n defnyddio technoleg i ddarparu systemau cynaliadwy o dyfu bwyd lle mae paramedrau ac amodau fel dŵr a golau yn cael eu rheoli’n dynn.

Ymwelodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths â busnes a sefydlwyd gyda CEA yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg i lansio’r prosbectws a gweld y gwaith y maent yn ei wneud i gynhyrchu ffrwythau meddal, gan gynnwys mefus, gydol y flwyddyn.

Cafodd y Gweinidog gyfle hefyd i lansio brand mefus newydd Aeron Cymreig y cwmni, sy’n dilyn buddsoddiad sylweddol gan S&A sydd wedi dyblu maint ei fferm yn y Bont-faen.

Mae CEA yn cael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd gyda systemau wedi’u datblygu ar fodel economi gylchol gan gynnwys gwres a maetholion wedi’u hailgylchu, ynni adnewyddadwy a helpu i sicrhau cyn lleied o wastraff bwyd â phosibl.

Mae’r math hwn o dyfu bwyd yn ategu dulliau amaethyddol a garddwriaeth traddodiadol drwy gynhyrchu’r cnydau na ellir eu tyfu’n hawdd yng Nghymru a chyflenwi cynnyrch gydol y flwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae wedi bod yn wych ymweld â S&A i weld y cynnyrch gwych y maent yn ei dyfu yma yng Nghymru mewn ffordd mor arloesol ac i lansio eu brand mefus newydd.

“Mae creu Cymru gryfach, wyrddach a thecach wrth wraidd yr hyn yr ydym am ei gyflawni.

“Mae gan bob un ohonom bryderon am newid yn yr hinsawdd, lleihau adnoddau naturiol a thwf yn y boblogaeth – a’r effaith mae’n ei gael ar y bwyd ar ein platiau.

“Mae gan Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir y potensial i drawsnewid y gadwyn cyflenwi bwyd tra’n gostwng ein hôl troed carbon ac effaith amgylcheddol cynhyrchu bwyd.

“Gyda’n gilydd mae gennym gyfle gwirioneddol i ddarparu Cymru wyrddach nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp S&A, Peter Judge: “Mae cyfleoedd sylweddol i ddatblygu cnydau gwerth uchel yn effeithlon gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

“Mae’r buddsoddiad y mae S&A Produce wedi’i wneud yn cefnogi hyn, ynghyd â lansiad ein Brand Cymreig a fydd ar gael yn Siopau Coop yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Mae prosbectws CEA Cymru i’w weld ar: https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/sut-gallwn-ni-helpu


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.