26.9 C
Llanelli
Wednesday, May 27, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymruyn lansio ymgyrch i recriwtio...

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymruyn lansio ymgyrch i recriwtio Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn

0
521
fd42e792d9904a61b2c28a45c6fd4f7a
fd42e792d9904a61b2c28a45c6fd4f7a

Mid & W Wales Fire News

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am ymgeiswyr ar gyfer swyddi Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn, gyda phroses recriwtio yn lansio am 9am ddydd Iau 9 Medi.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Chris Davies: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub modern sy’n amrywiol ac yn gynhwysol.

Mae rôl y Diffoddwr Tân yn eithriadol o amrywiol. Mae Diffoddwyr Tân nid yn unig yn hyffordd i ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, sy’n cynnwys tanau, gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, achub dŵr a llawer mwy, maent hefyd yn treulio mwy a mwy o amser yn ymgysylltu â’n cymunedau ac yn eu haddysgu, a hynny er mwyn helpu i atal achosion brys rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Ein gwaith ni yw gwneud ein cymunedau’n fwy diogel, ac mae arnom angen pobl o bob cefndir a all addasu i unrhyw sefyllfa. Un funud gallent fod yn achub rhywun o wrthdrawiad traffig ffyrdd neu o dŷ sy’n llosgi, ac yn ddiweddarach gallent fod yn cefnogi unigolyn agored i niwed yn ei gartref neu’n siarad â channoedd o blant ysgol ynghylch atal tân.”

Ategodd: “Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn yrfa hynod o werth chweil; un sy’n cynnig datblygiad parhaus ynghyd ag amgylchedd gwaith cyffrous, lle mae pob diwrnod yn wahanol!

Byddwn yn annog pawb i edrych ar ein gwefan i ddysgu rhagor am y rôl.”

Bydd y ffenestr recriwtio yn agor ddydd Iau 9 Medi am 9am, a bydd yn parhau’n agored tan 23.59pm ddydd Sul 12 Medi.

I gael ysbrydoliaeth, darllenwch stori Sioned yma: https://www.mawwfire.gov.uk/eng/service-news/posts/2021-news-archive/august/thinking-about-applying-to-be-a-wholetime-firefighter-if-it-scares-you-go-for-it/?fbclid=IwAR2pXTPqcvas-PCj3CLGp29Fi7LIFvYIhT1SYL5unSTp-c6FITDvAJKeKAI

Ewch i https://www.mawwfire.gov.uk/eng/join-us/wholetime-recruitment/ i gael rhagor o wybodaeth.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here