Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu pedwar peiriant sganio’r bledren newydd ar gyfer wardiau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Mae’r sganwyr Verathon, ynghyd â throliau symudol ac argraffwyr, wedi’u darparu ar gyfer Ward Lawfeddygol 3, Ward Feddygol 7, yr Uned Eiddilwch ar Ward 9, a Ward y Pâl.
Prynwyd cloriannau eistedd Marsden hefyd ar gyfer Ward y Pâl.

Dywedodd Helen Johns, Rheolwr Dros Dro y Gwasanaeth Ysbyty, y bydd cael peiriannau sganio’r bledren ar gyfer pob un o’r wardiau yn golygu diagnosis a thriniaeth brydlon.
“Mae’r sganwyr hyn yn lleihau’r risg o heintiau ac yn golygu profiad gwell a mwy cyfforddus i’r cleifion,” meddai Helen.

“Roedd yn ofynnol i Ward y Pâl gael cloriannau eistedd hefyd oherwydd bod yn rhaid pwyso pob claf wrth iddo gael ei dderbyn, a hynny ar gyfer asesiadau o ran meddyginiaethau a maeth.
“Rydym am ddarparu’r driniaeth orau bosibl i’n cleifion ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n cymunedau lleol sy’n codi arian ar ein cyfer.”
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















