18.1 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle “Rwyf eisiau i Gymru fod yn genedl sy’n dathlu oed” – dyna...

“Rwyf eisiau i Gymru fod yn genedl sy’n dathlu oed” – dyna adduned y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

0
472
WML 011021 Nordic Walking 19 scaled
WML 011021 Nordic Walking 19 scaled

Welsh Government

Bydd rôl ganolog pobl hŷn yn ein cymunedau’n cael ei chydnabod wrth i Gymru ddod yn genedl sydd o blaid pobl hŷn. Dyna gyhoeddiad Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Heddiw [Dydd Iau 7 Hydref], mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio. Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y bydd pobl o bob oed yn cael eu cefnogi i fyw ac i heneiddio yn dda ac mae’n herio’r ffordd rydym yn meddwl am heneiddio, a’r ffordd rydym yn teimlo amdano.

Nordic Walking

Bydd Cymru o Blaid Pobl Hŷn yn gweithio ar draws adrannau’r llywodraeth i fynd i’r afael ag ystod eang o ffactorau sy’n dylanwadu ar sut yr ydym yn heneiddio – o’n systemau iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth i’r ffordd yr ydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Pedwar prif nod y strategaeth yw:

  • Gwella llesiant
  • Gwella gwasanaethau lleol ac amgylcheddau
  • Meithrin a chynnal galluogrwydd pobl
  • Trechu tlodi sy’n gysylltiedig ag oedran

Cefnogi cynlluniau ar gyfer heneiddio’n iach, mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol a thlodi tanwydd, cydnabod pwysigrwydd gofal diwedd oes o ansawdd uchel, a gwella’r cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl yw rhai o’r camau gweithredu a nodwyd yn y strategaeth i gyflawni’r nodau hyn.

Yn ogystal, dyrannwyd £550,000 i awdurdodau lleol i gefnogi eu gwaith i sicrhau eu bod o blaid pobl hŷn, creu cysylltiadau â phobl hŷn ac ymuno â Rhwydwaith Dinasoedd a Chymunedau o Blaid Pobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd. Rhoddir £100,000 yn ogystal i wella ymwybyddiaeth o hawliau a chydraddoldeb pobl hŷn.

I sicrhau y gellir adnabod y materion allweddol sy’n effeithio ar bobl hŷn, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi pum grŵp a fforwm cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn dan arweiniad Age Cymru.

Freindship Club

Wrth lansio’r strategaeth ar Daith Gerdded Nordig Age Cymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rwyf eisiau i Gymru fod yn genedl sy’n dathlu oedran ac yn edrych ymlaen at fynd yn hŷn. Yn llawer rhy aml, mae pobl yn cysylltu heneiddio â salwch a dirywiad, ac yn anwybyddu’r cyfraniad y gall pobl hŷn ei wneud i gymdeithas. Mae pobl hŷn yn rhoi cymorth hanfodol i’w teuluoedd; i economi ehangach Cymru ac i system iechyd a gofal Cymru ac yn rhoi cymorth emosiynol ac ymarferol drwy wirfoddoli.

“Byddwn yn sicrhau bod llais a phrofiadau pobl hŷn yn ganolog i’n polisïau ac yn datgloi potensial pobl hŷn heddiw, a chymdeithas hŷn yfory. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau’r holl bobl hŷn yng Nghymru, gallwn ymwrthod â rhagfarn ar sail oedran a gweithio ar draws cenedlaethau i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.”

Dywedodd prif weithredwr Age Cymru Victoria Lloyd:

“Rydym yn croesawu’r sylw y mae Llywodraeth Cymru’n ei roi i wella bywydau pobl hŷn a chydnabod y cyfraniad enfawr y mae pobl hŷn yn ei wneud i’n cymunedau.

“Rydym hefyd yn croesawu cwmpas ehangach y Strategaeth, sy’n cynnwys pob agwedd o fywyd person hŷn o iechyd a llesiant i dlodi a hawliau.

Yr her i bob un ohonom nawr yw ceisio gwneud yn siŵr bod yr uchelgeisiau’n cael eu rhoi ar waith ar bob lefel o’r llywodraeth, yn ein gwasanaethau cyhoeddus a phreifat, ac yn ein cymunedau.”

Age Friendly Wales Startegy E


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.