4.3 C
Llanelli
Friday, February 13, 2026
Home News History News Diwrnod Archaeoleg Rhithwir i ddatgelu hanes a threftadaeth gyfoethog Sir Benfro

Diwrnod Archaeoleg Rhithwir i ddatgelu hanes a threftadaeth gyfoethog Sir Benfro

0
2505
Photo of Caerfai excavation
Photo of Caerfai excavation

Bydd Diwrnod Archaeoleg Arfordir Penfro yn dychwelyd ar 20 Tachwedd 2021 gyda chyflwyniadau ar amrywiaeth o brosiectau cyffrous a gwaith cloddio yn digwydd ym mhob cwr o’r sir.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro mewn partneriaeth â PLANED, a bydd yn cael ei gynnal ar-lein am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd COVID-19.

Capsiwn: Bydd Diwrnod Archaeoleg Arfordir Penfro 2021 yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 20 Tachwedd.

Capsiwn: Bydd Diwrnod Archaeoleg Arfordir Penfro 2021 yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 20 Tachwedd.

Dywedodd Tomos Jones, Archeolegydd Cymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol, a fydd yn cyflwyno’r digwyddiad ochr yn ochr â Chydlynydd Diwylliannol PLANED, Stuart Berry: “Bydd y cyflwyniadau’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Claddedigaeth Cerbyd rhyfel, gwaith cloddio yng Nghaerfai, Capel Sant Padrig, Priordy Hwlffordd, megalithiau Sir Benfro, Castell Henllys a Chastell Nanhyfer.

“Bydd cyfle hefyd i glywed am brosiectau treftadaeth cymunedol ym Mhenfro, Llangwm a Bryniau Preseli.”

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad rhith yn £5 ac maen nhw ar gael i’w prynu oddi ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Bydd y rhaglen lawn a’r cyfarwyddiadau ymuno â’r digwyddiad yn cael eu hanfon at bawb a fydd yn cymryd rhan ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad.

I archebu lle ewch i www.arfordirpenfro.cymru/event/archaeology-day/.

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.