Elusennau Iechyd Hywel Dda ar godi arian marathon Gethin ac Aled

0
330
Aled and Gethin Newport Marathon
Aled and Gethin Newport Marathon

Mae brodyr o Sir Gaerfyrddin Gethin ac Aled Williams yn gwisgo’u hesgidiau ac yn rhedeg marathon i godi arian ar gyfer ward y plant yn Ysbyty Glangwili.

Mae’r cynorthwyydd gweinyddol Gethin, 40 oed, o Dŷ-croes a’r swyddog technegol Aled, 38 oed, o Sanclêr, yn hyfforddi ar gyfer Marathon ABP Casnewydd Cymru, sy’n digwydd ar 24 Hydref.

Dywedodd Aled: “Rydym yn gobeithio codi cymaint o arian ag y gallwn ar gyfer ward Cilgerran ac rydym wedi gosod targed i ni’n hunain o £700.

“Roedd fy merch Lili ar ward y plant am gwpwl o nosweithiau yn 2019 a hefyd mae merch Geth wedi profi eu gofal, felly roedd y ddau ohonom yn meddwl y byddai’n briodol codi arian ar gyfer y ward.

“Nawr, bron dwy flynedd yn ddiweddarach a gyda COVID-19, mae’n teimlo hyd yn oed mwy priodol ein bod ni’n gallu chwarae ein rhan fach iawn wrth ddweud diolch am bopeth mae staff y ward yn ei wneud i helpu cymaint o blant a theuluoedd.”

Ychwanegodd Aled, sydd wedi rhedeg sawl marathon o’r blaen: “Roeddwn i wedi bod yn cael

trafferth gydag ychydig o anaf i’r glun dros yr haf ond mae hynny wedi lleddfu yn ystod yr

wythnosau diwethaf ac yn teimlo’n well wrth i mi gynyddu’r milltiroedd.”

Dywedodd Gethin: “Rwyf wedi rhedeg marathon Llundain ac Eryri o’r blaen. Mae’r hyfforddiant

yn mynd yn dda hyd yn hyn.”

Os hoffech chi gyfrannu, ewch i www.justgiving.com/fundraising/aledagethinwilliams2020.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd

Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ei bod am ddiolch i Gethin ac Aled am godi arian.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau’n ychwanegol at yr hyn gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here