15.1 C
Llanelli
Sunday, September 27, 2026
Home Newyddion Lle Lluniau newydd yn dangos maint enfawr prosiect Metro ‘uchelgeisiol a chymhleth’ Cymru

Lluniau newydd yn dangos maint enfawr prosiect Metro ‘uchelgeisiol a chymhleth’ Cymru

0
425
Metro eng
Metro eng

Welsh Government

“Bydd cyflawni prosiect Metro Cymru gwerth £1bn yn un o’r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol a chymhleth rydym erioed wedi’i chynnal.”

Meddai’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters, wrth iddo ddadorchuddio mapiau newydd yn dangos maint enfawr y prosiect.

Roedd y Dirprwy Weinidog yn siarad dim ond wythnos cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau Sero-net yn y cyfnod cyn COP26, gan ddweud sut y byddai’r prosiect yn cyflawni’r cynlluniau a amlinellir yn Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, drwy greu rhwydwaith trafnidiaeth modern, integredig a chynaliadwy sy’n cefnogi ffyrdd modern o fyw.

Bydd y Metro yn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio eu ceir yn llai a thrafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn fwy, er mwyn lleihau ein heffaith amgylcheddol yn sylweddol a helpu Cymru i gyrraedd ei tharged Carbon sero-net erbyn 2050.

Mae’r mapiau newydd, sydd ar gael am y tro cyntaf heddiw, yn dangos y cynlluniau tymor byr a thymor hwy uchelgeisiol y bydd y rhaglen yn eu rhoi ar waith, i helpu pobl i wneud y dewis cywir.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Trydaneiddio 172km i wella amseroedd teithio ac amlder gwasanaethau
  • Hyd at 30% mwy o wasanaethau i wella cysylltiadau ledled Cymru, fel trenau tram newydd sy’n cynnig gwasanaethau cyflym nad oes angen eu trefnu ymlaen llaw mewn 45 gorsaf ar Reilffyrdd y Cymoedd erbyn 2024
  • Gwasanaethau trenau a bysiau newydd a gwell a llwybrau teithio llesol i leihau ynysigrwydd yn y cefn gwlad, i ddarparu gwasanaeth cymudo drws i ddrws a rhoi mynediad at gyfleoedd ar gyfer swyddi, busnes a hamdden ar draws Gogledd Cymru
  • Tocynnau integredig newydd ac opsiynau mwy hyblyg ar gyfer prisiau, drwy ddefnyddio technoleg newydd ar bob bws a mwy na 200 o beiriannau tocynnau newydd mewn gorsafoedd
  • Gorsafoedd newydd a gwell ledled Cymru i wneud defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn hyfyw yn hytrach na defnyddio’r rhwydwaith ffyrdd gorlawn.
  • Gwifrau uwchben sy’n defnyddio 100% ynni adnewyddadwy i leihau ein ôl troed carbon

Yn ogystal â chysylltu cymunedau, mae’r prosiect eisoes yn sicrhau manteision economaidd ledled Cymru – gan hyrwyddo gyrfaoedd mewn peirianneg i blant a menywod, darparu cyfleoedd gwaith i gyn-filwyr, a chreu llwybrau i helpu troseddwyr i adsefydlu a chael swyddi sefydlog a boddhaus.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Lee Waters:

“Dim prosiect trafnidiaeth yn unig mo’r Metro. Mae’n newid bywydau pobl ledled Cymru ac mae’n enghraifft wych o sut mae buddsoddi i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn arwain at fanteision cymunedol  ehangach o lawer.

“Gwella ein llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yw’r peth cywir a chyfrifol i’w wneud dros yr amgylchedd. Mae’n gwneud defnyddio trafnidiaeth carbon isel yn fwy deniadol a fforddiadwy ac yn haws ei defnyddio. Yn ei dro mae hyn yn galluogi pobl i adael eu ceir gartref, yn enwedig yn rhannau mwyaf poblog Cymru, drwy ddarparu llwybrau teithio llesol drws i ddrws fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth integredig a chynaliadwy.

“Y mis nesaf byddwn yn mynychu COP26 – y COP pwysicaf ers Paris yn 2015 – a byddwn yn mynd â neges glir i Glasgow fod Cymru yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Mae prosiectau uchelgeisiol fel hyn yn enghraifft o hynny ac yn dangos sut mae pawb yma yn barod i chwarae ei ran yn y frwydr yn erbyn cynhesu byd-eang.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi heddiw hwb ariannol ychwanegol o £2 miliwn i ehangu’r cynlluniau presennol ar gyfer Metro De-ddwyrain a Metro De-orllewin Cymru, gan gynnwys gorsafoedd a gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd newydd yn ogystal â rhagor o lwybrau teithio llesol sy’n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy deniadol a hygyrch ac yn cysylltu cymunedau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.